Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 17/Ion
Dydd Llun 20/01/25
Dydd Mawrth 21/01/25
- Cerddorfa ysgol 8:45yb
Dydd Mercher 22/01/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
3:30 - 4:30yp - Ymweliad gan Bennaeth Ysgol Gymraeg y Gaiman, Patagonia
Dydd Iau 23/01/25
- Nofio i fl.4a6
- Ymarfer rygbi i fl.5a6
3:30 - 4:30yp
Dydd Gwener 24/01/25
- Bydd Blwyddyn 6 yn ymuno yn nathliadau Agoriad Swyddogol maes 2G y Ganolfan Hamdden yn ystod y prynhawn
- 3:30 - 5:00 - Disgo Dwynwen y G.Rh.A yn Neuadd yr Ysgol. Mynediad yn £2 - gweler y poster yn Llythyr y Pennaeth
Dydd Sadwrn 25/01/25
- Dydd Santes Dwynwen - ymunwch â ni yn y Parêd - cwrdd wrth Gloc y Dref am 1:45yp
LAWRLWYTHIADAU
Newyddion
Medi 2013 |
|
BLWYDDYN 6 YN YMWELD Â BWS ADDYSG GREFYDDOL ‘GSUS’ |
|
Ar ddydd Llun Medi’r 23ain cafodd disgyblion Blwyddyn 6 gyfle i ymweld â bws Addysg Grefyddol GSUS draw ar gampws Ysgol Penweddig. Fe gawsant gryn fwynhâd o gwblhau nifer o wahanol weithgareddau rhyngweithiol ar gyfrifiaduron arbennig a oedd wedi’u gosod ar y bws – gan gynnwys gwylio clipiau ffilm, darllen dyfyniadau o’r Beibl, a derbyn ac anfon ebyst dychmygol at blant a phobl ifanc mewn cyfyng-gyngor. Bu’r ymweliad yn gymorth mawr iddynt archwilio a deall themâu megis ofn, maddeuant a dial, ac wrth ddyfnhau eu dealltwriaeth o rai o brif negeseuon y Beibl. |
|
BLWYDDYN 6 YN YMWELD AG AMGUEDDFA WLAN DREFACH FELINDRE |
|
|
Cafwyd ymweliad diddorol iawn eleni eto wrth i ddisgyblion blwyddyn 6 ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre. Gyda chymorth y peiriannau a'n tywysydd,, gwelwyd sut y mae gwlân yn troi o fod ar gefn y ddafad i fod yn ddilledyn y gallwn ei wisgo. Cafodd pawb gyfle hefyd i arbrofi gyda gwlân, gan greu darn o ffelt a'i addurno gyda gwahanol liwiau a phatrymau - diolch i Joanna am arwain y sesiwn honno gyda phawb. Yr hwyl mwyaf wrth gwrs oedd cael gwisgo gwahanol gotiau a siolau - roedden ni'n edrych yn cŵl iawn! |
Y DERBYN AR FFERM CWMWYTHIG! |
|
Ar fore dydd Iau, 26ain o Fedi aeth y dosbarth Derbyn mewn bws i fyny i ymweld â fferm Cwmwythig, ger Capel Bangor. Cawsom groeso cynnes iawn gan y teulu Evans a buom yn lwcus iawn o gael ein tywys o amgylch eu fferm brysur. Gwelsom y gwartheg yn cael eu godro yn y parlwr cylchdroi a beth yn union fyddai taith y llaeth o’r fferm i’r siop. Roedd y plant wrth eu bodd yn gweld y lloi bach, yr ieir, y teirw a’r afr ‘Nel’ sy’n serennu yn ‘Hafod Haul’ (Rhaglen Cyw). Cafodd y plant ddiod a bisged ar ôl bore cyffrous!! |
|
DISGYBLION YR YSGOL YN CYFLWYNO GÊM BÊL-DROED TREF ABERYSTWYTH |
|
|
Diolch i Thomas Crocket am wahodd disgyblion yr Ysgol Gymraeg i gyflwyno'r gêm rhwng Tref Aberystwyth a GAP Cei Connah ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn. Cafwyd croeso arbennig a chyfle i gael taith o gwmpas y stadiwm yn cynnwys yr ystafelloedd newid cyn cael cyfle i chwarae gêm gyfeillgar yn ystod hanner amser. Derbyniodd pob plentyn becyn o adnoddau i fynd adref gyda nhw. |
PENCAMPWYR CWPAN GOFFA GARY PUGH |
|
Llongyfarchiadau i dri o fechgyn yr ysgol am fod yn aelodau o dîm buddugol Cwpan Goffa Gary Pugh yn ddiweddar. Mae Ynyr, Gwion ac Efan yn ddisgyblion blwyddyn 4 ac yn aelodau o dîm Teigrod Talybont, ynghyd â chwaraewyr o ysgolion eraill y cylch. Da iawn chi, fechgyn, ar eich llwyddiant. |
|
BLWYDDYN 5 YNG NGHASTELL HENLLYS |
|
|
Dydd Gwener, Medi’r 20fed aeth llond bws o blant blwyddyn 5 ar daith i Gastell Henllys. Cawsom ein croesawu gan un o’r Celtiaid sef Cai. Trwy ryfedd wyrth aethom yn ôl i Oes y Celtiaid, lle roedd na ddim tai bach! Cafwyd cyfle yn ystod y dydd i weld a chael blas ar fywyd y Celtiaid wrth i’r plant adeiladu wal, coginio bara a gwehyddu basged. Ar ôl paentio wynebau roedd y plant yn barod i ymosod ar y gelyn. Cafodd y plant amser bendigedig! |
BLWYDDYN 3 AR DAITH O AMGYLCH Y DREF |
|
|
Ar ddydd Gwener, y 6ed o Fedi, aethom ni ar drip o amgylch y dre. Dechreuon ni wrth edrych ar gadair Gwenallt o Eisteddfod Bangor 193, yna aethon ni drwy’r fynwent a heibio i fedd Gwenallt. Nesaf, gweld safle’r ysgol gymraeg gyntaf, lle’r oedd dim ond 7 o blant. Aethon ni nesaf i Le’r Ffald lle roedden nhw yn gofalu am anifeiliaid strae. Yna i Stryd y Poplys a cHwrdd â Mr a Mrs Morgan, a chael bisgedi a sgwash gyda nhw. Yn Rhes y Poplys roedd arfer bod coed a nant yn rhedeg trwyddo. Wedyn aethon ni at Stryd y Crwynwr a dywedodd Mr Morgan (y gofalwr) ychydig o’i hanes, roedd arfer bod ffwrn wal yno. Yna, aethon ni heibio i Morris and Bates, roedd Morris and Bates yn arfer bod yn ffatri haearn. Aethon ni nesaf heibio’r hen Ysgol Gymraeg. Aethon ni heibio Banc y Ddafad Ddu ar Stryd y Bont. Yna aethon ni i’r parc ac i fyny i’r castell. |
DATHLU DIWRNOD OWAIN GLYNDŴR |
|
Disgyblion Blwyddyn 2 yn dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr yn y castell arbennig a adeiladwyd y llynedd. |
|
NEIDR YN Y DERBYN! |
|
Cafwyd ymwelydd go wahanol i' arfer i ddosbarthiadau'r Derbyn heddiw. |
|
GWOBR RYNGWLADOL |
|
Cawsom wybod ar ddechrau’r tymor newydd i’r Ysgol Gymraeg fod yn llwyddiannus yn ein cais diweddar am Wobr Ganolradd Ysgolion Rhyngwladol y Cyngor Prydeinig. Dyfernir y wobr i ysgolion sy’n gwneud ymdrech arbennig i ymgorffori agweddau rhyngwladol yn eu cwricwlwm ac ym mhrofiadau allgyrsiol disgyblion. Roedd ein cais ni am y wobr yn ffocysu’n bennaf ar weithgareddau ein prosiect Comenius - The Good Life - ar y cyd â chwe ysgol Ewropeaidd arall, yn ogystal â gweithgarwch ein Diwrnod Rhyngwladol blynyddol. Y cam nesaf fydd ceisio am y Wobr Ysgolion Rhyngwladol Lawn yn ystod blwyddyn addysgol 2013/14. |
|
« Newyddion Gorffennaf / Newyddion Hydref » | |