Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 13/Rhag

 

Dydd Llun 16/12/24

  • Diolch i bawb am eich cefnogaeth i'r Gyngerdd Nadolig nos Iau diwethaf
  • Prynhawn Agored y Meithrin ar gyfer plant newydd Ionawr 1:15yp

Dydd Mawrth 17/12/24

  • Dim neges

 

Dydd Mercher 18/12/24

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Cinio Nadolig yr ysgol, a diwrnod Siwmper Nadolig
  • Dim Clwb yr Urdd tan y gwanwyn

 

Dydd Iau 19/12/24

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Dim nofio wythnos hon
  • SINEMA i bawb heblaw Meithrin - 'Arthur Christmas' - **cofiwch fod angen casglu eich plentyn o Sinema'r Commodore am 3:15yp os gwelwch yn dda**

 

Dydd Gwener 20/12/24

  • Dim Cerddorfa heddiw
  • Diwedd tymor 3:30yp
  • Nadolig Llawen i chi i gyd
  • Bydd y tymor newydd yn cychwyn i bawb ar ddydd Llun y 6ed o Ionawr 2025

 

LAWRLWYTHIADAU

Croeso i dudalen ADY

 

Croeso cynnes i chi i dudalen yr adran
Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mrs Caryl Jones
Cydlynydd ADY

 

JonesC4900@hwbcymru.net

 

Bwriad y dudalen hon yw i'ch cynorthwyo gyda gwahanol agweddau o ADY, gan rannu dolenni defnyddiol at wefannau addas a gwybodaeth gan yr Awdurdod Addysg Lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch y Cod ADY newydd yn 2022.

Ar waelod y dudalen mi welwch ein cyfrif trydar lle rhennir gwybodaeth defnyddiol i'ch cefnogi chi fel rhieni a gofalwyr.

Cofiwch gysylltu â mi yn syth os hoffech drafod unrhyw agwedd o ddatblygiad eich plentyn.

 

Dolenni defnyddiol :

> Gwefan ADY Cyngor Sir Ceredigion
   
> Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni (Ceredigion)
   
> Fideo ADY Cyngor Sir Ceredigion
   
> Gwybodaeth am Awtistiaeth (AwtistiaethCymru.org)
   
> Snap Cymru - cymorth i rieni

 

Rhaglenni Ymyrraeth yr ysgol :

> Dyfal Donc
   
> Trandep
   
> Cyfri Ceredigion
   
> Hwb Ymlaen

 

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL YNG NGHEREDIGION

 

 

 

Rhannwyd y wybodaeth isod o wefan Llywodraeth Cymru sy'n rhoi diffiniad clir o raglen trawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL YNG NGHYMRU - BETH SY'N NEWID?

 

 

 

SUT BYDD Y DDEDDF YN EFFEITHIO AR BLANT, POBL IFANC A RHIENI/GOFALWYR?

Cliciwch yma i weld pdf maint llawn o'r ddelwedd

Y SYSTEM NEWYDD

1. Beth yw'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd?

Y system ADY yw'r system gymorth statudol newydd i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed yng Nghymru sydd ag ADY. Bydd yn dod i rym ym mis Medi 2021.

Crëwyd fframwaith deddfwriaethol y system newydd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ('y Ddeddf'), Cod ADY Cymru a'r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf. Drwy'r fframwaith statudol hwn, nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob dysgwr sydd ag ADY yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu cyflawni’i botensial, drwy greu:

  • un fframwaith deddfwriaethol i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu’n iau sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a phobl ifanc sydd ag ADY ac yn yr ysgol neu mewn addysg bellach;

  • proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro'r cymorth a ddarperir i ddysgwyr ag ADY, sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol;

  • system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor ac ar gyfer datrys pryderon ac apelau.

Mae'r Ddeddf yn disodli'r termau 'anghenion addysgol arbennig (AAA)' ac 'anawsterau a/neu anghenion dysgu ychwanegol (AAD)' ac yn cyflwyno'r term newydd 'anghenion dysgu ychwanegol (ADY)'. Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, beth bynnag yw difrifoldeb neu gymhlethdod ei anhawster neu ei anabledd dysgu, hawl i gynllun cymorth statudol a elwir yn 'Gynllun Datblygu Unigol (CDU)'. Bydd plant a phobl ifanc ag ADY yn cael cymorth a elwir yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) a fydd wedi'i nodi yn eu CDU.

 

2. Beth yw ADY?

Mae gan ddysgwr ADY os oes ganddo/ganddi anhawster neu anabledd dysgu sy’n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae gan blentyn sydd o oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster neu anabledd dysgu:

  1. os yw'n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na mwyafrif y dysgwyr eraill sydd o'r un oedran, neu

  2. os oes ganddo anabledd, yn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

Mae gan blentyn o dan oedran ysgol gorfodol anhawster neu anabledd dysgu os yw ef neu hi yn debygol (neu y byddai’n debygol pe na bai DDdY) o gael cryn dipyn yn fwy o anhawster wrth ddysgu na’r rhan fwyaf o’i gyfoedion/chyfoedion pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol. 

Mae DDdY i ddysgwr dros 3 oed yn golygu darpariaeth addysg neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at, neu’n wahanol i’r ddarpariaeth a wneir yn gyffredinol i ddysgwyr eraill o’r un oedran mewn ysgol brif ffrwd, sefydliad addysg bellach neu leoliad addysg feithrin yng Nghymru. O ran y rheiny dan 3 oed, mae’n golygu darpariaeth addysg o unrhyw fath.

Gall fod gan blentyn neu berson ifanc anhawster neu anabledd dysgu nad yw'n galw am DDdY. Mewn achos felly, ni ystyrir bod gan y plentyn neu'r person ifanc ADY. Mae'n bwysig nodi hefyd na fydd pob anhawster neu anabledd dysgu sy'n deillio o gyflwr meddygol yn galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Un o egwyddorion y Cod ADY drafft yw addysg gynhwysol lle caiff plant a phobl ifanc eu cefnogi i fanteisio'n llawn ar addysg brif ffrwd, lle bynnag y bo'n ymarferol, a lle mae'r lleoliad cyfan yn ceisio diwallu anghenion dysgwyr ag ADY. Lle mae lleoliadau’n mabwysiadu dull gweithredu cwbl gynhwysol ynghyd â darpariaeth ddysgu gyffredinol sy’n diwallu ystod eang o anghenon dysgu, gall hyn helpu i negyddu’r angen am DDdY. Mae’r Cod ADY drafft yn darparu canllawiau ar y broses o asesu a phenderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY.

 

CDUau

3. Pwy fydd â hawl i gael CDU?

Mae Deddf ADY yn creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY. Bydd yn disodli’r ddwy system sydd ar waith ar hyn o bryd i gefnogi plant a phobl ifanc o oedran ysgol gorfodol sydd ag AAA; a phobl ifanc mewn addysg bellach sydd ag AAD.

Mae'r system newydd yn disodli'r cynlluniau cymorth presennol (gan gynnwys Datganiadau AAA, cynlluniau addysg unigol i ddysgwyr sy'n destun Gweithredu gan yr Ysgol/Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, a Chynlluniau Dysgu a Sgiliau ar gyfer dysgwyr ôl-16) â chynllun statudol newydd a elwir yn Gynllun Datblygu Unigol. Os penderfynir bod ADY gan blentyn yng Nghymru o oedran ysgol gorfodol, bydd ganddo hawl i CDU waeth lle mae’n cael ei addysgu.

Fodd bynnag, nid yw'r Ddeddf yn rhoi hawl i bobl ifanc ag ADY gael addysg barhaus hyd at 25 oed. Ei bwriad, yn hytrach, yw rhoi mynediad i addysg neu hyfforddiant pellach ar sail gyfartal â'r rheini sydd heb ADY.

Os oes gan berson ifanc ADY a'i fod yn mynychu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach, bydd ganddo hawl i gael CDU bob amser. Fodd bynnag, os na fydd person ifanc ag ADY yn mynychu sefydliad addysg bellach neu ysgol a gynhelir, bydd angen i awdurdod lleol benderfynu, yn unol â'r rheoliadau i'w gwneud o dan y Ddeddf, a oes angen cynnal CDU ar ei gyfer.

Y bwriad yw i'r rheoliadau nodi'r materion sy'n berthnasol pan fydd awdurdod lleol yn ystyried pa anghenion rhesymol o ran addysg neu hyfforddiant sydd gan y person ifanc, os o gwbl. Byddant hefyd yn delio â phryd y bydd angen i'r awdurdod lleol lunio a chynnal CDU ar gyfer person ifanc sydd ag angen rhesymol o ran addysg neu hyfforddiant.  Mae Pennod 12 o'r Cod ADY drafft yn adlewyrchu'r hyn rydym yn bwriadu darparu ar ei gyfer yn y rheoliadau hyn.

Nid yw’r Ddeddf yn ymestyn i addysg uwch, dysgu seiliedig ar waith na phrentisiaethau. Nid yw Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai’n briodol rhoi dyletswyddau ar gyflogwyr. Fodd bynnag, os bydd dysgwr sy’n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith neu brentisiaeth wedi’i gofrestru yn fyfyriwr mewn sefydliad addysg bellach, bydd y dyletswyddau ar y sefydliad addysg bellach yn berthnasol. Hefyd, os bydd y person ifanc yn cytuno y gall y CDU gael ei drosglwyddo gydag ef i’w sefydliad addysg uwch, i'w ddarparwr dysgu seiliedig ar waith neu i'w brentisiaeth, gellir ei ddefnyddio ar gyfer y broses bontio ac i gefnogi gwaith cynllunio. Rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr sy’n gyfrifol am brentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith i nodi’r gwahanol sefyllfaoedd ac awgrymu’r arferion gorau o ran ymdrin â nhw yn y Cod.

Rydym yn credu bod defnyddio trefniadau contractiol yn ffordd well o ddiogelu a hybu buddiannau dysgwyr ag ADY yn y sector dysgu seiliedig ar waith.

 

4. Pa mor hir mae'n ei gymryd i lunio CDU?

Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i lunio CDU yn dibynnu ar natur a hyd a lled anghenion plentyn neu berson ifanc. Dylai paratoi CDU cryno i blentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion llai difrifol neu gymhleth fod yn broses gymharol syml a chyflym. Dyma fydd mwyafrif y CDUau a lunnir. Mae’n debygol y bydd angen mewnbwn a chyngor gan arbenigwr wrth baratoi CDU i blentyn neu berson ifanc sydd ag anghenion difrifol, cymhleth neu lai cyffredin ac y bydd yn manylu ar ystod llawer ehangach o ymyriadau. Mae’n anorfod y bydd angen mwy o amser ac ymdrech i baratoi CDU o’r fath, ond ni ddylai fod ei angen ond mewn ychydig o achosion.

Mae'r Cod ADY drafft yn cynnig bod yn rhaid i ysgol lunio CDU yn brydlon, ac yn sicr o fewn 35 diwrnod ysgol, yn achos disgybl sy'n blentyn, ar ôl i'r ffaith y gallai fod ganddo ADY gael ei dwyn i sylw'r ysgol neu ar ôl i hynny ymddangos iddi fel arall, neu yn achos disgybl sy'n berson ifanc, ar ôl i'r disgybl gydsynio i'r bwriad i wneud y penderfyniad. Y cyfnod cyfatebol yn achos awdurdod lleol yw 12 wythnos (neu saith wythnos os yw'r awdurdod lleol yn ailystyried penderfyniad ysgol ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY).

O dan y system AAA bresennol, gall y broses asesu statudol ac o roi datganiad gymryd hyd at 26 wythnos. Dylai'r amserlenni arfaethedig ar gyfer CDUau helpu i sicrhau na fydd yn cymryd llawer mwy na thymor ysgol cyn y caiff plentyn neu berson ifanc ag ADY CDU (tua 13 wythnos yw hyd tymor ysgol arferol).

 

5. Beth yw CDU a sut mae'n wahanol i Ddatganiad?

Cynllun statudol yw CDU a gynhelir gan ysgol, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol sy'n disgrifio ADY plentyn neu berson ifanc, y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anhawster neu anabledd dysgu yn galw amdani, a gwybodaeth gysylltiedig arall.

Yn wahanol i ddatganiad AAA, darperir CDUau i blant a phobl ifanc ag ADY, beth bynnag yw difrifoldeb neu gymhlethdod eu hanghenion.  Bydd statws statudol y CDU yr un fath, beth bynnag yw lefel anghenion y plentyn neu'r person ifanc, a bydd gan unrhyw un sydd â CDU yr un hawliau i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

Bwriedir i'r CDU fod yn ddogfen hyblyg a fydd yn amrywio o ran hyd a chymhlethdod, yn dibynnu ar wahanol anghenion dysgwyr a'r ffordd y mae anghenion dysgwr unigol yn datblygu ac yn newid dros amser.

 

6. Pa mor wahanol yw'r Ddeddf hon i'r un yn Lloegr?

Yn Lloegr, fe wnaeth Deddf Plant a Theuluoedd 2014 ddiwygio'r system AAA a chyflwyno cynlluniau statudol newydd o'r enw 'Cynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal' - fodd bynnag, dim ond i ddysgwyr ag anghenion difrifol a chymhleth y mae'r rhain (hy maent yn cyfateb i Ddatganiadau). Yng Nghymru, bydd y system ADY yn ymestyn yr hawliau i bob dysgwr ag ADY gael cynllun statudol, nid dim ond y rheini sydd â'r anghenion mwyaf difrifol neu gymhleth. 

 

7. Beth yw rôl plant, eu rhieni a phobl ifanc yn y broses o adnabod ADY a sicrhau cefnogaeth yn y system newydd?

Mae'r system newydd yn rhoi'r lle canolog i'r dysgwr ym mhopeth sy'n digwydd ac rydym yn disgwyl i ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol ganolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio a chefnogi plant a phobl ifanc.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau plant, eu rhieni a phobl ifanc ym mhob rhan o broses y CDU. Bydd y templed CDU gorfodol arfaethedig yn cynnwys proffil un dudalen i sicrhau bod CDUau yn adlewyrchu anghenion a phersonoliaeth y plentyn neu’r person ifanc, gan gynnwys yr hyn sy’n bwysig iddynt ac ar eu cyfer.

 

8. Pwy sy'n gyfrifol am lunio, cynnal ac adolygu CDUau ac am adnabod ADY?

Caiff ADY ei adnabod, a CDU ei lunio a'i gynnal, naill ai gan ysgol, sefydliad addysg bellach neu awdurdod lleol, yn dibynnu ar ba sefydliad addysgol y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ei fynychu, ac ar ddifrifoldeb neu gymhlethdod ei anghenion.

Mae cynnal CDU yn golygu sicrhau'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd wedi'i chynnwys ynddo, ac adolygu'r CDU yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth sydd ynddo, a'r ddarpariaeth y mae'n ei disgrifio, yn parhau'n briodol.

Yn achos plant neu bobl ifanc nad ydynt yn ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir neu wedi'u hymrestru'n fyfyrwyr mewn sefydliad addysg bellach, neu os yw plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru, yr awdurdod lleol fydd yn cynnal y CDU bob amser. Mae hyn yn cynnwys cynnal CDUau plant o dan oedran ysgol gorfodol os nad ydynt yn mynychu lleoliad ysgol a gynhelir neu CDUau pobl ifanc sy'n mynychu sefydliad ôl-16 arbenigol annibynnol.

 

9. A fydd templed cenedlaethol gorfodol ar gyfer CDUau?

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cod ADY gynnwys un neu fwy o ffurflenni CDU safonol ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ddefnyddio'r ffurflen hon/ffurflenni hyn. Gellir addasu’r ffurflen i gyd-fynd â dewisiadau lleol neu ddewisiadau’r plentyn neu berson ifanc.

Bydd pob CDU yn cynnwys elfennau allweddol penodol ac yn cadw at yr un strwythur sylfaenol. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb a chydraddoldeb cyffredinol o ran sut mae dysgwyr yn cael eu trin, a bydd yn sylfaen i gydlyniant y system ADY yn ei chyfanrwydd a chludadwyedd cynlluniau unigol.

Mae'r Cod drafft yn darparu dwy ffurflen CDU orfodol, un i'w defnyddio yn achos plant nad ydynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, a phob person ifanc; ac un arall i'w defnyddio yn achos plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Mae penawdau a threfn y ffurflenni gorfodol yn adlewyrchu'r cynnwys manwl y mae'n rhaid ei gael mewn CDU ac sydd wedi'i nodi ym Mhenodau 13 ac 14 o'r Cod ADY drafft.

 

10. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng CDU a gynhelir gan awdurdod lleol a CDU a gynhelir gan ysgol?

Bydd i CDU a gynhelir gan ysgol a CDU a gynhelir gan awdurdod lleol yr un statws statudol yn union. Bydd yn rhaid i ba gorff bynnag sy'n llunio ac yn cynnal y CDU sicrhau bod y CDU yn disgrifio ADY y plentyn neu'r person ifanc, a'r DDdY y mae ei ADY yn galw amdani, a rhaid iddo wedyn fynd ati i sicrhau'r DDdY honno.

Awdurdodau lleol, yn hytrach nag ysgolion, fydd yn cynnal CDU os bydd gan y plentyn neu'r person ifanc ADY sy'n galw am DDdY na fyddai'n rhesymol i'r corff llywodraethu ei sicrhau.

Mae Pennod 9 o'r Cod ADY drafft yn rhoi eglurder ynghylch pryd y dylai ysgol gyfeirio disgybl i awdurdod lleol i benderfynu a oes gan y disgybl ADY ac i benderfynu ai'r awdurdod lleol neu'r ysgol ddylai fod yn gyfrifol am gynnal CDU. Mae'n rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylent benderfynu a yw'n rhesymol i ysgol sicrhau'r DDdY sy'n ofynnol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, neu a yw'n rhesymol i'r awdurdod lleol wneud hynny. Mae hefyd yn nodi y dylai'r awdurdod lleol sefydlu cyfres o egwyddorion y byddant yn eu defnyddio wrth benderfynu a yw'n rhesymol i ysgol sicrhau'r DDdY neu ai'r awdurdod lleol ddylai wneud hynny.

 

Y GYMRAEG

11. Sut bydd y Ddeddf yn helpu i greu system ddwyieithog i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY ledled Cymru?

Un o nodau craidd y Ddeddf yw creu system gymorth ddwyieithog ar gyfer dysgwyr ag ADY. Bydd yn ofynnol i wasanaethau ystyried a oes ar blentyn neu berson ifanc angen DDdY yn y Gymraeg; bydd y ddyletswydd hon yn un barhaus, yn hytrach na phenderfyniad a wneir unwaith yn unig. Os bydd angen DDdY yn y Gymraeg, rhaid cofnodi hyn yn y CDU a chymryd ‘pob cam rhesymol’ i sicrhau’r ddarpariaeth yn y Gymraeg. Mae mecanwaith wedi’i gynnwys yn y Ddeddf i ddiddymu drwy’r rheoliadau y prawf ynghylch ‘pob cam rhesymol’, fel y bydd y dyletswyddau i gynnig DDdY drwy gyfrwng y Gymraeg yn dod yn absoliwt dros amser. 

Hefyd, bydd cyfres o ddyletswyddau strategol yn ceisio hybu'r camau tuag at system ADY ddwyieithog. Yn benodol, wrth adolygu eu trefniadau ar gyfer ADY, ac i ba raddau y mae'r trefniadau hynny yn ddigonol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried digonolrwydd DDdY a gyflwynir drwy'r Gymraeg. Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw'r trefniadau yn ddigonol, gan gynnwys y DDdY sydd ar gael drwy'r Gymraeg, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni'r mater.

Wrth wneud hyn, dylai awdurdodau lleol gysylltu eu hadolygiad o DDdY â dyletswyddau strategol ehangach, gan gynnwys y rheini o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddrafftio ac ymgynghori ynghylch Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a’u cyhoeddi, sy’n dangos sut byddant yn ceisio cyflawni’r canlyniadau a’r targedau ynghylch darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu hardal, gan gynnwys mewn perthynas â dysgwyr ag ADY.

 

I weld y casgliad llawn o gwestiynau ac atebion, agorwch y ddogfen pdf yma

 

 

 

Trydar