Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 21/Chwe

 

Dydd Llun 17/02/25

  • Rhagbrofion canu a llefaru ar gyfer yr Eisteddfod Ysgol

Dydd Mawrth 18/02/25

  • Rhagbrofion offerynnol ar gyfer yr Eisteddfod Ysgol
  • Cerddorfa ysgol 8:45yb
  • Ymarfer pêl-droed i fl.5a6
    3:30-4:30yp

 

Dydd Mercher 19/02/25

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Bydd Clwb yr Urdd yn parhau yn nhymor yr haf
  • Ymarfer pêl-droed i fl.3a4
    3:30-4:30yp
  • Ymarfer Cân Actol
    3:30 - 4:45yp

 

Dydd Iau 20/02/25

  • DIM NOFIO WYTHNOS HON
  • Eisteddfod Offerynnol yr Urdd yn ystod y bore (ar gyfer unigolion yr ysgol)
  • Awr o Eisteddfod Ysgol yn ystod y prynhawn
  • Ymarfer rygbi i fl.5a6
    3:30 - 4:30yp

 

Dydd Gwener 21/02/25

  • EISTEDDFOD YSGOL
  • Pawb i gyrraedd erbyn 8:30 os gwelwch yn dda - bydd yr Eisteddfod yn cychwyn am 8:45yb
  • Cofiwch fod angen pecyn bwyd i ginio ar bawb
  • Diwedd hanner tymor - ail-hanner y tymor yn cychwyn ar ddydd Llun 3ydd o Fawrth

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Rhagfyr 2011

CROESAWU'R AWDURES SIÂN LEWIS I FLWYDDYN 6

» Siân Lewis yn trafod ei llyfr Project Kite gyda disgyblion blwyddyn 6

 

"Yn ystod y tymor rydym wedi bod yn darllen llyfr Siân Lewis Project Kite. Llyfr ydyw am y barcud coch, ac am brosiect y prif gymeriad sef Gary Lloyd. Mae'r llyfr yn un arbennig o dda a gwnaeth pawb ym mlwyddyn 6 fwynhau'r stori yn fawr. Enillodd y llyfr wobr Earthworm yn 1994. Roedd hi'n brofiad arbennig i groesawu Siân Lewis i'r dosbarth a gofyn ein cwestiynau iddi - cyffrous iawn oedd clywed ei hatebion! Diolch yn fawr iddi am gytuno i ddod i siarad gyda ni ar ddiwedd y tymor fel hyn."

Carys, Dosbarth 6J

 

SOFFIA YW SEREN Y MIS CIP!

» Soffia yn dal y copi diweddaraf o gylchgrawn yr Urdd CIP!

 

Llongyfarchiadau mawr i Soffia ar fod yn Seren y Mis yng nghylchgrawn Cip! Danfonodd Soffia lythyr a llun campus i'r cylchgrawn, gan nodi mai ei hoff ran o'r cylchgrawn yw'r gornel jôcs! Y wobr am fod yn Seren y Mis yw Pecyn Mistar Urdd - llond sach o anrhegion cyffrous!

 

Go lew ti Soffia!

 

CYNGERDD NADOLIG 2011

 

» Y Neuadd Fawr dan ei sang eleni eto wrth i blant yr ysgol berfformio sioeau'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2


I weld y casgliad llawn cliciwch yma

 

I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma

 

CYNLLUN ENTREPRENEURIAETH Y DOSBARTH DERBYN

» Disgyblion y Derbyn yn dal rhai o'r baubles Nadoligaidd

 

Yn rhan o fenter entrepreneuriaeth yr ysgol mae’r dosbarth Derbyn wedi bod yn brysur yn gwerthu ‘baubles’ Nadoligaidd.  Mae’r ‘baubles’  ar gael mewn lliwiau gwyrdd, coch ac aur  gydag enw'r plant wedi’I addurno arnynt mewn gliter.  Mae’r baubles yn gwerthu’n dda am £2.00 yr un ac mae’r elw yn mynd tuag at brynu adnoddau newydd i’r dosbarth.

 

CWMNI CARDIAU NADOLIG BLWYDDYN 6

» Rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 gydag archeb cardiau plant y Cyfnod Sylfaen

 

Eleni eto mae'r Cwmni Cardiau Cyfarch wedi bod yn brysur dros ben yn sicrhau fod pob plentyn drwy'r ysgol gyfan yn cynllunio carden ei hun cyn iddynt eu sganio a'u hargraffu ar gardiau trwchus pwrpasol - y gwaith i gyd yn cael ei gwblhau ar gampws yr ysgol. Hyd yn hyn rydym wedi gwerthu dros 5,000 o gardiau Nadolig i rieni'r ysgol. Rydym hefyd wedi llwyddo i greu cyswllt gyda siop 'Broc Môr' yn y dre sydd yn gwerthu detholiad arbennig o'r cardiau. Os hoffech archebu pecyn o gardiau, cysylltwch â'r ysgol.

« Newyddion Tachwedd 2011 / Newyddion Ionawr 2012 »