Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 04/Hydref

 

Dydd Llun 07/10/24

  • Bydd ffurflen archebu lluniau unigolion a theuluoedd ym mag eich plant heddiw

Dydd Mawrth 08/10/24

  • P.C Hannah ym mlwyddyn 6
  • Ymarfer rygbi tag ar gyfer merched bl.5a6 3:30—4:30yp

 

Dydd Mercher 09/10/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Clwb yr Urdd i fl.2,4a6
    3:30-4:30yp - cofiwch fod angen bod yn aelod o'r Urdd ar gyfer hyn

 

Dydd Iau 10/10/24

  • Nofio i fl.4 a 6
  • * DOES DIM GEMAU AR GYFER YR YSGOL GYRAEG WYTHNOS HON* Gêmau hoci i fl.6 - tri thîm o'r ysgol yn chwarae'n wythnosol - gweld amserlen

 

Dydd Gwener 11/10/24

  • Diwrnod Rhyngwladol yr ysgol

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Mai 2014

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD, MEIRIONNYDD 2014

Aeth saith eitem i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Bala eleni, gyda thair ohonynt yn cyrraedd y llwyfan.

Llongyfarchiadau mawr i'r Grŵp Llefaru a'r Grŵp Dawns Cyfansoddiad Creadigol ar ddod yn gyntaf yn eu cystadlaethau hwy, ac i'r Gerddorfa a ddaeth yn drydydd.

Rhaid canmol ymdrechion yr holl ddisgyblion eraill a deithiodd i'r Bala yn ogystal - aelodau'r Côr, Côr Cerdd Dant, Grŵp Dawns Creadigol ac Ensemble Offerynnol - er na lwyddant i gyrraedd y llwyfan roedd eu perfformiadau o safon uchel ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt, yn ogystal â phawb a fu'n brysur yn eu hyfforddi a'u paratoi, am eu gwaith caled yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Edrychwn ymlaen i weld yr eitemau i gyd unwaith eto yn ein Cyngerdd Haf ar y 10fed o Fehefin.

 

CAITLIN YN LLWYDDIANNUS WRTH DYWYS DEFAID

Llongyfarchiadau mawr i un o ddisgyblion Blwyddyn 2 yr ysgol, Caitlin, ar ei llwyddiant arbennig yng Ngwyl Gwanwyn y Sioe Frenhinol yn ddiweddar.

Llwyddodd Caitlin i ennill y dosbarth Tywyswyr ifanc 5-7oed yn Adran y Defaid.

Mae Caitlin wrth ei bodd yn trin defaid, ac yn mynychu sioeau yn gyson yn ystod y flwyddyn.

Da iawn ti Caitlin, a phob hwyl i ti arni eto yn y dyfodol.

 

TAITH GERDDED NODDEDIG Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (45 llun)

Er gwaetha'r rhagolygon, daeth llygedyn o haul i wenu ar y daith eleni. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi'r daith gerdded eleni. Braf oedd gweld cynifer o gerddwyr - yn ddisgyblion, rhieni, perthnasau, staff a chyn-ddisgyblion yr ysgol yn mwynhau'r tywydd braf a chael mynd am dro ar hyd y llwybrau gwahanol: ar hyd rhodfa Plascrug ar gyfer y plant bach; a draw i'r cae criced ac yn ôl i'r plant hŷn.

Diolch yn arbennig i Daniel Davies, cyn ddisgybl yr ysgol ac un a fydd yn cystadlu yng Ngwyl Seiclo Aber am agor y daith, a hefyd i gwmni Tŷ Nant am noddi'r digwyddiad eleni eto, ac am gyfrannu cannoedd o boteli o ddŵr i bawb gael dorri'u syched ar y noson.

 

DATHLU LLWYDDIANT

Llongyfarchiadau i'r plant canlynol ar eu llwyddiant mewn amryw o feysydd gwahanol yn ddiweddar:

Steffan : Cyntaf mewn cystadleuaeth ysgrifennu adolygiad o lyfr a drefnwyd gan Brifysgol Rhydychen
Abi : Gwobrau mewn marchogaeth
Mia, Mair ac Ani : Llwyddiant mewn
Clwb Achub Bywyd ar y môr
Rose : Llwyddiant mewn gymnasteg
Erin a Soffia - Llwyddiant mewn karate (ennil y gwregys brown)

Da iawn chi blant

 

GWOBRAU LLENYDDOL I GWEN A TOMOS

Llongyfarchiadau gwresog iawn i Gwen o flwyddyn 5 ac i Tomos o flwyddyn 6 ar eu llwyddiant diweddar mewn ysgrifennu creadigol.

Pleser mawr oedd derbyn amlen ag ynddi dystysgrifau a medalau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a oedd yn nodi fod Gwen wedi ennill cystadleuaeth Rhyddiaith i fl.5a6, a Tomos yn drydydd yn y gystadleuaeth barddoniaeth i fl.5a6. Gwych!

Darllenwch eu gwaith yma:

Llythyr Gwen

Cerdd Tomos

 

TÎMAU HOCI YR YSGOL YN CWRDD YN Y ROWND DERFYNOL

 

Ar noson ola'r cystadlaethau hoci am eleni cynhaliwyd twrnament ar gaeau-pob-tywydd y Brifysgol gyda dau o dîmau'r ysgol yn cyfarfod yn y ffeinal.

Fodd bynnag, Taranau aeth â hi (tîm disgyblion blwyddyn 6) wedi iddynt frwydro'n galed yn erbyn Mellt (tîm disgyblion blwyddyn 5). Roedd hi'n gêm agos iawn gyda phawb yn ymdrechu'n galed dros eu tîm)

Diolch yn fawr i bawb a fu ynghlwm yn y trefniadau ar gyfer y gynghrair eleni; diolch hefyd i staff yr ysgol sydd wedi bod yn brysur yn hyfforddi'r plant trwy'r flwyddyn; a diolch i'r rhieni am eu presenoldeb a'u cefnogaeth trwy gydol y tymor (yn enwedig ar y nosweithiau oer, gwlyb a gwyntog dros fisoedd y gaeaf!)

 

EITEM GYDA TOMMO AR RADIO CYMRU

Croesawyd Tommo o Radio Cymru i'n plith heddiw wrth i rai o ddisgyblion yr ysgol gymryd rhan mewn eitem sydd ganddo ar Radio Cymru.

Prynhawn dydd Mawrth a dydd Iau nesaf bydd y disgyblion yn ateb cwestiynau go wahanol ar gyfer yr eitem.

Edrychwn ymlaen i glywed beth fydd ganddynt i'w ddweud!

 

EISTEDDFOD CALAN MAI ABERYSTWYTH

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (88 llun)

Cynhaliwyd Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth am yr ail flwyddyn eleni a braf oedd gweld cynifer o blant yr ysgol yn cystadlu.

Yn y lluniau mi welwch disgyblion o bob oed yn cystadlu mewn sawl gwahanol gystadleuaeth gan gynnwys canu, llefaru, actio, dawnsio, bwyta bisgedi heb ddwylo (!) a braf oedd gweld yr Ensemble Offerynnol sydd eisoes wedi cyrraedd y Genedlaethol yn cystadlu hefyd.

Diolch i bawb a fu'n trefnu, a diolch i Tegwen Morris am y lluniau.

 

GWOBRAU GWYDDONIAETH

Llongyfarchiadau i bawb yn y llun ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn ystod ein hymweliad ag Arddangosfa Wyddoniaeth y Brifysgol yn ddiweddar.

Wrth grwydro'r arddangosfa roedd yn rhaid i'r disgyblion ateb nifer o gwestiynau gwahanol yn gywir, a llwyddodd i'r disgyblion yma gyrraedd y brig.

Diolch unwaith eto i Brifysgol Aberystwyth am drefnu ac am eu gwobrau arbennig.

 
 

 

« Newyddion Ebrill