Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

 

► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 09/Hydref

 

Dydd Llun 12/10/26

  • Cyfarfod Teams ysgol gyfan dan ofal y Cyngor Ysgol
  • Nofio i flwyddyn 5

Dydd Mawrth 13/10/26

  • Twrnamaint pêl-droed yr Urdd ar gyfer bl.3a4 yn Llangrannog

 

Dydd Mercher 14/10/26

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Blwyddyn 6 yn Ysgol Penweddig

 

Dydd Iau 15/10/26

  • Diwrnod Shwmae Su'mae
  • Nofio i flwyddyn 3
  • Jambori ar gyfer disgyblion y Derbyn, Bl.1a2
  • Grwpiau sillafu bl.3-6 (prynhawn)
  • Cynghrair hoci bl.6
    4:00 - YGA1 (Craig Glais)
    4:30 - YGA2 (Pen Dinas)
    > (amserlen y tymor)

 

Dydd Gwener 16/10/26

  • Ymarfer pêl-droed ar gyfer bechgyn a merched bl.5a6 3:30 - 4:30yp

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Gair o groeso gan y Pennaeth

Croeso i chi i dudalennau gwefan Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i tua pedwar cant o ddisgyblion. Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i mwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-Gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.

 

Mae’r Llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Ceredigion wedi cydweithio’n glòs i sicrhau adeilad addas ac adnoddau pwrpasol er mwyn diwallu’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion. Mae yna 14 o athrawon a phymtheg o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.

 

Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig – “fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu”. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.

 

Mr Gareth James