Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 06/Medi

 

Dydd Llun 09/09/24

  • Anfonwyd Llythyr y Pennaeth ar e-bost ddydd Gwener. Os na dderbynioch chi'r e-bost cysylltwch â ni er mwyn i ni eich hychwanegu i'r system

Dydd Mawrth 10/09/24

  • Ymarfer hoci i fl.6 3:30 - 4:30yp
  • Cofiwch ddychwelyd y taflenni data a'r llythyr caniatâd at yr athrawon dosbarth cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda

 

Dydd Mercher 11/09/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan

 

Dydd Iau 12/09/24

  • Hoci i fl.6 (dau dîm yr ysgol - Pen dinas a Chraig Glais - 4:00 - 4:30yp) yng Nghanolfan Hamdden Plascrug
  • Bydd nofio yn cychwyn i fl.3-6 ddiwedd mis Medi

 

Dydd Gwener 13/09/24

  • Dim neges

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Mehefin 2014

PENCAMPWYR CRICED 50/50 CEREDIGION

Llongyfarchiadau i'r tîm criced 50/50 sy'n cynnwys bechgyn a merched blynyddoedd 3 a 4 ar eu llwyddiant yn Llandysul yn ddiweddar.

Dyma'r chweched tro yn olynol i'r ysgol ennill y gystadleuaeth hon.

Da iawn bawb a phob hwyl yn y rownf genedlaethol.

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 2 I GANOLFAN Y BARCUD

 

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (70 llun)

Cafodd disgyblion blwyddyn 2 fore dymunol iawn yng Nghanolfan y Barcud yn Nhregaron.
Cafodd y merched wisgo pinaffor gwyn ac eistedd ar feinciau tu ol i ddesgiau pren. Roedd yn rhaid i bawb siarad Saesneg yn y dosbarth neu fe fydden nhw’n gorfod gwisgo’r 'Welsh Not' am eu gwddf. Buont yn adio ac yn adrodd tabl 2 gan ddefnyddio abacws pren. Roedd rhai o’r plant yn ysgrifennu geiriau Saesneg ar y bwrdd du efo sialc. Cyn ateb cwestiwn roedd yn rhaid i bawb ddweud ‘Please Sir..’ Roedd yn brofiad gwahanol iawn. Profiad hollol wahanol i'n hysgol ni diolch byth! 
Diolch i Trystan ab Owen (cyn ddisgybl) am fod yn Syr strict iawn!

 

RAS YR IAITH

 

 

GWERS FFRANGEG GYDAG UN O LYWODRAETHWYR YR YSGOL

Diolch yn fawr i Heather Williams sydd yn rhiant ac yn llywodraethwraig yn yr ysgol am ddod i ddosbarthiadau blwyddyn 6 heddiw i gynnal sesiynau Ffrangeg.

Cafodd y disgyblion lawer o hwyl wrth ddysgu, gyda'r pwyslais ar y llefaru a sut i ynganu'r geiriau'n gywir. Erbyn diwedd y wers roedd pawb yn gallu darllen stori syml mewn Ffrangeg hefyd!

Pob hwyl i'r disgyblion wrth iddynt ddysgu ieithoedd modern yn yr ysgolion uwchradd fis Medi.

 

BEICIO YM MLWYDDYN 1

Cafwyd llawer o hwyl ym Mlwyddyn 1 wrth i bawb ddod â beic neu sgwter i’r ysgol.

Rhaid oedd teithio’n ofalus o amgylch iard yr ysgol a chanolbwyntio wrth reoli’r beic rhwng y cônau.

Da iawn bawb am gofio dod a gwisgo eu helmed.

 

TÎMAU PÊL-DROED MERCHED A RYGBI BECHGYN

Dros benwythnos Chwaraeon Cenedlaethol yr Urdd ar gaeau Blaendolau eleni, roedd gan yr ysgol dau dîm a oedd wedi ennill yn rhanbarthol yn cystadlu yn erbyn enillwyr y rhanbarthau eraill drwy Gymru.

Er i dîm Pel droed y merched chwarae'n arbennig o dda ar y dydd Sadwrn, ac ennill tair gem allan o bedair, ni aethon nhw ymlaen i'r rowndiau terfynol.

Yr un oedd hanes y bechgyn - llwyddo i chwarae'n dda ond heb fynd yn bellach na'r grwp.

Diolch i bawb am gymryd rhan ac am wneud eu gorau glas. Diolch hefyd i'r staff am hyfforddi ac i'r rhieni a ddaeth a gefnogi.

 

TRAWSGWLAD CENEDLAETHOL YR URDD

Da iawn bawb a gystadlodd yng nghystadleuaeth Traws Gwlad Cenedlaethol yr Urdd dros y penwythnos.

Llongyfarchiadau yn arbennig i'r timau a ddaeth i'r brig, gyda Bechgyn Blwyddyn 3 yn dod yn ail, Bechgyn Blwyddyn 4 yn drydydd, a Bechgyn Blwyddyn 5 hefyd yn ail.

Yn dilyn gohiriad y penwythnos gwreiddiol oherwydd tywydd garw, cafwyd diwrnod hyfryd o haf i redeg ddoe! Diolch i'r Urdd unwaith eto am drefnu'r cystadlaethau yma.

 

LANSIO LLONG OFOD

 

Cawsom y fraint o lansio llong ofod heddiw! Dyma i chi flas o beth ddigwyddodd trwy luniau, a datganiad y wasg:

Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn paratoi i lansio taith i’r gofod gyda chymorth arbenigwr mewn roboteg o Brifysgol Aberystwyth.

 bod y tywydd yn caniatáu, bydd llong ofod yn cael ei lansio o gae chwarae'r Ysgol rhwng 9 a 10 o’r gloch fore Iau 12 Mehefin.

Wrth baratoi ar gyfer y daith, mae’r disgyblion wedi adeiladu roced ar gyfer cynnwys y capsiwl gofod, a chreu pobl fach o glai a fydd yn teithio ynddi.

Maent hefyd wedi bod yn dysgu am y gofod, y tywydd ac am lansiadau tebyg eraill, ac wedi bod yn gweithio gyda’r animeiddiwr Tim Allen i wneud ffilmiau byr animeiddiedig o'r gofodwyr dewr yn dringo i mewn i'r capsiwl gan gymryd gyda hwy negeseuon o’n planed ni, y Ddaear.

Yn ymuno â hwy ar fwrdd y llong ofod fydd cynrychiolydd Eco-Sgolion yn cario baner werdd Eco-Sgolion. Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn Eco-Ysgol Platinwm ac mae'r prosiect yn cael ei ffilmio gan Eco-Sgolion Cymru ar gyfer fideo a fydd yn cael eu dangos yn y Gynhadledd Ryngwladol Gweithredwyr Eco-Ysgolion yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2014 i nodi 20 mlynedd o Eco-Sgolion yn rhyngwladol ac yng Nghymru.

Cyn y lansiad, dywedodd Mr Clive Williams, Prifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth; “Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn falch o’r cyfle i fod yn leoliad i’r digwyddiad cyffrous yma. Mae’r disgyblion wedi bod yn astudio gwaith am y gofod fel rhan o’r cwricwlwm gwyddoniaeth ac wedi cael llawer o brofiadau amrywiol wrth baratoi’r roced fel rhan o’u gwaith celf. Maent wedi creu logo mewn dylunio a thechnoleg, astudio cyfeiriad y gwynt mewn daearyddiaeth ac ymchwilio i ddigwyddiadau tebyg drwy gyfrwng y we.

“Un o hoff straeon y disgyblion yw stori Y Bobl Fach Wyrdd ac maent yn edrych ymlaen at eu gweld yn gadael yr ysgol ac yn anelu tua’r gofod, gobeithio y down nhw nol yn ddiogel!

“Hoffai’r ysgol ddiolch i rieni’r ysgol am eu brwdfrydedd ac i’r Brifysgol am bob cefnogaeth  gyda’r digwyddiad arbennig hwn”, ychwanegodd.

Y Daith

Balŵn tywydd llawn heliwm fydd yn cario’r llong ofod ac mae disgwyl i'r daith gyrraedd uchder o tua 30,000 metr cyn disgyn yn ôl i'r ddaear.

O dan y falŵn bydd capsiwl polystyrene sy’n cynnwys dau gamera, dau olrheiniwr GPS a chyfrifiadur cartref bychan sy'n mesur uchder, tymheredd a sut mae’r falŵn yn symud. Bydd yr holl wybodaeth yma yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r ddaear drwy gyswllt diwifr.

Bydd y camerâu yn defnyddio technoleg treigl amser i ddarparu rhai miloedd o luniau o’r ddaear wrth i’r falŵn ddringo hyd at ymyl atmosffer y ddaear.

Mi fydd y lluniau yn debyg iawn i’r rhai a dynnwyd gan ofodwyr yn ystod y teithiau Apollo cyntaf, ac mae disgwyl iddynt ddangos pa mor denau yw atmosffer y ddaear mewn gwirionedd.

Datblygwyd y dechnoleg ar gyfer y daith gan Dr Mark Neal, cydlynydd Grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a rhiant yn yr ysgol.

Bydd Mark yn trosglwyddo data wrth i’r falŵn esgyn i tua 10,000 metr. Unwaith y bydd y tu hwnt i gyrraedd y lloerennau, mae Mark yn disgwyl colli cysylltiad â'r falŵn wrth iddi esgyn hyd at 30,000 metr lle bydd hi’n byrstio cyn disgyn yn ôl i'r ddaear. Mae'n disgwyl i'r daith gyfan gymryd rhwng 3 a 5 awr.

Unwaith  bydd yn ôl ar y ddaear, bydd tîm wrth law i ddod o hyd i'r capsiwl a'i ddychwelyd at Mark er mwyn lawrlwytho’r lluniau a holl ddata’r daith.

A bod popeth yn mynd yn iawn a’r capsiwl wedi glanio, dylai'r tîm allu dod o hyd iddo drwy ddefnyddio technoleg GPS. Yn seiliedig ar ragolygon y tywydd ar gyfer dydd Iau, mae Mark yn rhagweld y bydd hynny rhywle yn yng nghanolbarth Cymru!

Datblygwyd y daith fentrys a pheryglus hon gan ddisgyblion, staff a rhieni Ysgol Gymraeg Aberystwyth gyda chefnogaeth  Eco-Sgolion Cymru, yr animeiddiwr Tim Allen, Ffotograffiaeth Keith Morris a Ultracomida.

 

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau

 

CWPAN Y BYD : PÊL DROED

Mae'r cae wedi ei osod a'i baratoi, mae'r goliau yn eu lle, mae'r llinellau wedi eu torri ac mae baneri'r corneli'n chwifio'n ysgafn yn yr awel.

Ry'n ni'n barod am gystadleuaeth Cwpan y Byd yr ysgol!

Dros yr wythnosau nesaf mi fydd disgyblion CA2 i gyd yn cynrhychioli gwlad arbennig yn nhwrnament Cwpan y Byd yr ysgol. Mae yna amserlen wedi ei pharatoi, gyda'r gemau yn cymryd lle yn ystod amserau chwarae ac amser cinio.

I weld yr amserlen cliciwch yma

(bydd yna ddiweddariadau i'r amserlengan ychwanegu canlyniadau o bryd i'w gilydd hefyd)

 

LLYSGENHADON IFANC YN CYMRYD AT YR AWENNAU DYFARNU!

Dyma i chi ddisgyblion dewr! Mae Lisa ac Ioan, ein Llysgenhadon ifanc, wedi cymryd at yr awennau o ddyfarnu ein gemau Cwpan y Byd eleni.

Mae'r ddau wedi derbyn hyfforddiant a gydag aelod o staff yn gweinyddu o'r ochr, mi fydd y ddau yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ac amseru'r gemau yn ystod y twrnament.

Ry'n ni'n gobeithio'n fawr na fydd rhaid iddynt estyn am y cardiau melyn a choch!

 

CRICED CYLCH ABERYSTWYTH

Da iawn i dîm Criced blwyddyn 5 a 6 ar gystadlu mor dda yn nhwrnament Cylch Aberystwyth eleni.

Llwyddodd y tîm i ennill y rownd gyntaf, cyn mynd ymlaen i ennill dwy gêm ac yna colli yn y gêm gyn-derfynol.

Da iawn bois!

 

CYNGERDD HAF 2014



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (122 llun)

Cafwyd Cyngerdd Haf llwyddiannus iawn eleni eto wrth i bob plentyn gymryd rhan yn cyflwyno eitemau o bob math i rieni, teuluoedd a chyfeillion yr ysgol.

Diolch yn arbennig i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am gynorthwyo gyda'r trefniadau ac i'r holl rieni a theuluoedd am gefnogi'r noson.

Diolch yn fawr hefyd i'r holl noddwyr am eu cefnogaeth ariannol hael.

I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma

 

Bydd fideo o'r noson ar gael cyn hir hefyd. Mwy o fanylion i ddilyn.

 

ANIMEIDDIO GYDA TIM ALLEN

Fel rhan o'n prosiect ar y cyd ag Eco Ysgolion a'r Brifysgol daeth yr Animeiddiwr Tim Allen i weithio gyda ni er mwyn creu cartwnau byr o'r Bobl Fach Wyrdd a fydd yn teithio yn y roced y byddwn yn ei lansio i'r gofod yr wythnos nesaf.

Mae Tim wedi gweithio ar sawl animeiddiad enwog gan gynnwys Shaun the Sheep, a chafodd y plant llawer o hwyl yn ei gwmni wrth ddysgu am ei waith a chael y cyfle i ddatblygu eu cymeriadau a'u hanimeiddiaid eu hunain.

Edrychwn ymlaen yn fawr at weld y cynhyrchiad gorffenedig.

 

BLWYDDYN 3 I FFERM PEITHYLL

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (77 llun)

Cafodd disgyblion blwyddyn 3 fore hyfryd ar ddydd Mercher, y 4ydd, draw ar fferm Peithyll yng Nghapel Dewi.

Cawsom groeso cynnes iawn gan Dewi (tad Maria) o gwmni Innovis, a gyflwynodd sawl agwedd o fywyd fferm i ni. Buom yn treulio amser ac yn dysgu am yr ŵyn bach, yn gweld Joc a Tango y cŵn defaid yn cadw trefn ar y defaid, ac roedd hyd yn oed amser gyda ni i fynd i eistedd yn sedd y John Deere!

Diolch yn fawr iawn i Dewi a’r criw.

 

GWOBR GWASG RHYDYCHEN I STEFFAN

 

Llongyfarchiadau lu i Steffan o flwyddyn 3 am ennill cystadleuaeth ysgrifennu adolygiad a drefnwyd gan Wasg Rhydychen.

Ysgrifennodd Steffan adolygiad o nofel enwog Lewis Carroll sef 'Alice in Wonderland'.

Da iawn ti Steffan, a dal ati i gystadlu mewn cystadlaethau llenyddol.

I ddarllen ei adolygiad cliciwch yma

 

CYSGODFAN NEWYDD I FEICIAU A SGWTERI

 

Yn dilyn cais llwyddiannus gan y Pwyllgor Iechyd a Ffitrwydd am grant i brynu cysgodfan feics mwy o faint, llwyddwyn i adeiladu un newydd dros wyliau'r Sulgwyn eleni.

Mae'r gysgodfan newydd dros ddwbl maint yr hen un, sy'n golygu ein bod yn medru cysgodi mwy o feiciau a sgwteri, yn enwedig gan fod mwy a mwy o blant yn gwneud yr ymdrech i deithio i'r ysgol heb orfod defnyddio car.

Edrychwn ymlaen i'r wythnos nesaf a fydd yn Wythnos Genedlaethol Beicio i'r Ysgol - bydd y gysgodfan siwr o fod yn llawn dop!

 

LANSIO NOFEL Y 'GWYLLIAID' GYDA BETHAN GWANAS

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd eleni, cafwyd seremoni wobrwyo ar gyfer lansio nofel ddiweddaraf Bethan Gwanas sef 'Gwylliaid'.

Mi gofiwch i ddisgyblion yr ysgol fod yn rhan o'r panel beirniadu penodau agoriadol nofel ar gyfer Gwobr Goffa T.Llew Jones y llynedd, ac erbyn hyn mae'r nofel wedi'i chwblhau ac wedi chyhoeddi hefyd.

Diolch i Ioan am gynrychioli'r ysgol yn y lansiad, a diolch i Bethan Gwanas am y copiau cyntaf o'r nofel wedi eu llofnodi hefyd! Edrychwn ymlaen i'w darllen.

 

LISA YN CARIO BATON GEMAU'R GYMANWLAD

Llongyfarchiadau i Lisa o flwyddyn 6 ar gael ei dewis i gynrychioli ardal Aberystwyth i gario'r baton ar gyfer Gemau'r Gymanwlad eleni.

Ymhlith disgyblion eraill yr ardal, cafodd Lisa gyfle i gario'r baton ar hyd y promenad yn Aberystwyth. Llwyddodd Lisa i gario'r baton yn urddasol iawn chwarae teg, a chadw'i chyffro dan reolaeth am gyfnod!

"Roeddwn i MOR MOR GYFFROUS am gario'r baton, fues i'n edrych ymlaen am wythnosau i gael gwneud" medd Lisa!

 

 

« Newyddion Mai