Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 17/Ion

 

Dydd Llun 20/01/25

  • Dim neges

Dydd Mawrth 21/01/25

  • Cerddorfa ysgol 8:45yb

 

Dydd Mercher 22/01/25

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan
  • Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
    3:30 - 4:30yp
  • Ymweliad gan Bennaeth Ysgol Gymraeg y Gaiman, Patagonia

 

Dydd Iau 23/01/25

  • Nofio i fl.4a6
  • Ymarfer rygbi i fl.5a6
    3:30 - 4:30yp

 

Dydd Gwener 24/01/25

  • Bydd Blwyddyn 6 yn ymuno yn nathliadau Agoriad Swyddogol maes 2G y Ganolfan Hamdden yn ystod y prynhawn
  • 3:30 - 5:00 - Disgo Dwynwen y G.Rh.A yn Neuadd yr Ysgol. Mynediad yn £2 - gweler y poster yn Llythyr y Pennaeth

 

Dydd Sadwrn 25/01/25

  • Dydd Santes Dwynwen - ymunwch â ni yn y Parêd - cwrdd wrth Gloc y Dref am 1:45yp

 

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Gorffennaf 2012

MABOLGAMPAU 2012

Am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, ni lwyddwyd i gynnal y Mabolgampau ysgol eleni. Er i'r ysgol ddewis 5 dyddiad gwahanol yn y gobaith y byddai un ohonynt yn sych, yn anffodus cafwyd tywydd gwlyb ar bob achlysur.
Serch hynny, ar y prynhawn Iau olaf llwyddwyd i gynnal y Ras Fawr gyda phlant blynyddoedd 1-6 i gyd allan ar y cae yn mwynhau cystadlu'n frwd yn erbyn ei gilydd.

Llwyddwyd hefyd i gynnal y rasys byr a'r rasys hir, y naid uchel a'r naid hir, yn ogystal â thaflu pêl. Oherwydd hyn, cafwyd digon o gystadlaethau gwahanol i fedru adio cyfansymiau'r sgoriau i ddarganfod pa dŷ oedd yn fuddugol eleni.

A dyma nhw, Steffan a Lily, capteniaid Tŷ Dewi yn derbyn tlws y Mabolgampau ar gyfer 2012.

Yma gwelir y disgyblion a dderbyniodd wobrau arbennig am eu campau chwaraeon yn ystod y flwyddyn. Llongyfarchiadau i Dwynwen am ennill y Tlws Traws Gwlad; i Maeve a Lisa am ennill tlws y Nofiwr gorau; i Ben am ennill tlws y prif sgoriwr pêl droed, a thlws y chwaraewr mwyaf dylanwadol; i Evan am ennill tlws y chwaraewr rygbi gorau; i Evan a Rhys am rannu tlws y Victor Ludorum yn y Mabolgampau; ac i Mary am ennill y Victrix Ludorum yn y Mabolgampau. Da iawn chi i gyd!

 

GWERTHU LLYSIAU'R ARDD

Yn dilyn un o hafau gwlypaf ers cof, daeth hi'n amser i geisio gwerthu gwahanol lysiau'r ardd natur. Yn ystod y misoedd diwethaf bu'r dosbarthiadau'n gweithio'n ddyfal i dyfu popeth o foron i gourgettes, gyda'r bwriad o'u gwerthu i'r cyhoedd ar ddiwedd y tymor. Yn y llun gwelwch griw o flwyddyn 5 yn paratoi i werthu llond dwy whilber o winwns!
Diolch yn arbennig i Mr Ifor Davies am ei waith yn cadw'r ardd yn gymen bob amser.

 

LLWYDDIANT YN SIOE ABERYSTWYTH

Cafwyd tipyn o lwyddiant yn adran Celf a Chrefft Sioe Aberystwyth eleni. Er i'r sioe ei hun gael ei chanslo oherwydd y tywydd, gwnaethant barhau gyda beirinadu'r holl waith celf, a da beth oedd hynny gan i naw o blant brofi llwyddiant mewn gwahanol gystadlaethau. Dyma'r canlyniadau:
1af : Lena Evans : Tynnu llun anifail
1af : Luned Jones : Blodyn o glai
2il : Martha Meredith : Blodyn o glai
3ydd : Gwion Hefin : Blodyn o glai
1af : Tomos Afan : Peintio carreg
2il : Sam Davies : Peintio carreg
3ydd : Demi Lee : Peintio carreg
2il : Gwennan Loosley : Llun enfys
3ydd : Brychan Davies : Llun enfys

 

TAITH FEICS BLWYDDYN 6

Llongyfachiadau mawr i ddisgyblion blwyddyn 6 a lwyddodd i basio eu prawf beicio yn ddiweddar. Yn dilyn wythnosau o ymarfer ar y beic ac yn dysgu rheolau'r ffordd, roeddynt yn barod am y prawf! I ddathlu eu llwyddiant trefnwyd taith feics ar eu cyfer ar hyd y llwybr beicio i Lanbadarn Fawr, ac yna nôl ar y hyd y prom gan aros am hufen iâ a seibiant ger yr Hut. Taith ddymunol iawn.

 

POBI BARA YM MLWYDDYN 4



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (48 llun)

"Ar y 17eg o Orffennaf, fel rhan o waith dylunio a thechnoleg fe fuodd blwyddyn 4 yn gwneud bara. Cafodd bawb tro i wneud rôl ac fe ddaeth pawb a llenwad i roi yn ei rôl. Y llenwad mwyaf poblogaidd oedd caws. Dyma'r dull: Yn gyntaf rhowch  275 ml o ddŵr cynnes mewn jwg.  Rhowch 1 llwy de o siwgr yn y dŵr a chymysgwch. Yna ychwanegwch 2 lwy de o furum  a chymysgwch eto. Pwyswch 450g o flawd gwyn ac ychwanegwch 2 lwy de o halen.  Arllwyswch y dŵr i mewn i’r gymysgedd a chymysgu i greu toes. Plethwch y toes am 5 munud. Gadewch mewn lle cynnes i grasu er mwyn dyblu mewn maint. Coginiwch ar wres o 230 C am 20 munud tan yn barod.
Roeddynt yn flasus tu hwnt!"
Rhianedd, Dosbarth 4J

 

GWIBDAITH Y DOSBARTHIADAU DERBYN I'R BLANED CHWARAE



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (130 llun)

Ar ddydd Mercher aeth y Dosbarth Derbyn i’r ‘Blaned Chwarae’ yn Llandre yn ystod y bore ac yna ymlaen i Ynyslas i fwynhau hufen iâ ac adeiladu cestyll tywod ar y traeth. Cafodd bawb amser cyffrous ond roedd pawb wedi blino’n lân erbyn diwedd y prynhawn.

 

YR AWDURES MANON STEFFAN ROS YN YMWELD Â'R YSGOL

Heddiw, daeth yr awdures Manon Steffan Ros i’r ysgol i wneud gweithdy ysgrifennu gyda Blwyddyn 6. Ar ôl trafod sut mae hi’n mynd ati i greu cymeriadau i’w llyfrau, gofynnodd Manon i ni greu dau gymeriad gwrthgyferbyniol – cymeriad ‘da’ yn gyntaf, ac yna gelyn pennaf i’r cymeriad. Cawsom lawer o hwyl wrth ddefnyddio ein dychymyg i greu cymeriadau gwreiddiol a gwallgof ac wrth rannu ein syniadau gyda’n gilydd. Yn dilyn hynny, cafodd rhai disgyblion a oedd wedi darllen nofel Manon ‘Prism’, enillydd Gwobr Tir na n’Og yn ddiweddar, gyfle i drafod y nofel gyda hi.
Beca ac Eluned, Dosbarth 6Ll

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 3 I DREFACH FELINDRE A TEIFI MANIA



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (59 llun)

Buom ar ein trip ysgol i’r Ffatri Wlân yn Nrefach Felindre ac i Teifi Mania yn Aberteifi. Cawsom y cyfle i fynd o gwmpas y ffatri a gweld nifer o bethau a chawsom y cyfle i wneud darn o ffelt i’w gadw. Yn Teifi Mania buom yn chwarae am awr gyfan ac roedd yn hwyl. I dorri syched cawsom lolipop cyn dychwelyd i’r ysgol.
Dosbarth 3D

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 4 I YNYS HIR A MACHYNLLETH

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (55 llun)

Ar ddydd Gwener, y 6ed o Orffennaf aeth blwyddyn 4 ar wibdaith i Ynys Hir. Gwarchodfa natur yw Ynys Hir sy’n gofalu am anifeiliaid, planhigion a chreaduriaid bach. Yn ystod y dydd cawsom gyfle i ddarganfod creaduriaid yn y goedwig ac efo rhwydi chwilio am greaduriaid yn y pwll dŵr. Roedd pawb wedi mwynhau’r gweithgareddau yn fawr iawn er bod pawb braidd yn wlyb! Ar ôl ychydig o fwyd aethom i Fachynlleth i gael sesiwn hwyl yn y pwll nofio.
Sara a Catrin, Blwyddyn 4

 

DIWRNOD ANGHARAD



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (213 llun)

I goffáu'r diwrnod y byddai Angharad wedi dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed, trefnodd y Cyngor Ysgol ddiwrnod o hwyl y byddai Angharad ei hun wedi bod wrth ei bodd i fod yn rhan ohono! Diolch i bawb a gyfrannodd £1 am wisgo fel eu hoff gymeriad allan o lyfr ac am fwynhau'r gemau potes a drefnwyd ar gyfer y prynhawn, ac am brynu'r holl gacennau blasus am 20c yr un - bydd yr arian yn cael ei gyfrannu i elusen Ysbyty Great Ormond Street, gyda rhai aelodau o staff, cyfeillion yr ysgol a theulu Angharad yn teithio i Lundain ganol mis Awst.
Darllenwch fwy am y daith honno yma
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Llwyddwyd i godi £609.46 heddiw!! Diolch yn fawr iawn
gan y Cyngor Ysgol

 

COGINIO YM MHENWEDDIG (DOGNI BWYD YR AIL RYFEL BYD)



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (73 llun)

Treuliodd disgyblion Blwyddyn 6 brynhawn difyr dydd Iau yn coginio draw yn Ysgol Penweddig. Fel rhan o’n gwaith Hanes y tymor hwn rydym wedi bod yn dysgu am yr Ail Ryfel Byd, ac am ddogni bwyd yn arbennig. Y gamp i’r disgyblion oedd dilyn ryseitiau o’r cyfnod er mwyn creu cacennau a bisgedi. Fe weithiodd pawb yn ddiwyd iawn, ac roedd y cynnyrch gorffenedig yn flasus dros ben. Mae’n amlwg fod sawl cogydd dawnus gyda ni ym Mlwyddyn 6! Diolch yn fawr i Mrs Menna Lewis ac i Ysgol Penweddig am y croeso a’r cymorth.

 

DIOLCH I GANOLFAN ARDDIO NEWMANS

Diolch yn fawr i Ganolfan Arddio Newmans am eu haelioni wrth gyfrannu gwerth cannoedd o flodau a phlanhigion i'r ysgol yn ddiweddar. Bellach mae'r ardal ger y brif fynedfa ac ardal y Meithrin wedi'u bywiocau gan liwiau ac aroglau'r blodau newydd. Fel y gwelwch, mae plant y Meithrin wrth eu boddau gyda'r blodau!

 

LOLIS RHEW IACHUS (A BLASUS) BLWYDDYN 6!



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (100 llun)

Un o dasgau'r Pecyn Pontio ar gyfer Blwyddyn 6 eleni oedd creu rysait a chynllun busnes ddwyieithog ar gyfer Lolis Rhew Iachus. Fel y gallwch ddychmygu, cafwyd llawer o hwyl yn arbrofi gyda gwahanol flasau a lliwiau! Yn dilyn diwrnod hir ddoe yn cymysgu'r ffrwythau, eu gosod mewn mowldiau gwahanol a'u rhewi, gosodwyd stondinau ar iard yr ysgol heddiw er mwyn eu gwerthu i weddill yr ysgol - ac oeddynt, roeddynt yn boblogaidd dros ben gyda chiwiau enfawr o blant ar ras i'w prynu! Ymhlith enwau'r lolis oedd "Lolis Lysh" a "Banango!" (banana a mango!) Ond cynllun busnes pa grŵp fydd yn dangos y mwyaf o elw tybed?

 

NOSON BARBECIW Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON

Er gwaetha'r glaw daeth torf fawr o rieni a chyfeillion yr ysgol i'r noson barbeciw flynyddol. Diolch yn arbennig i Mr Aled Morgan y Cigydd am ddarparu'r cig rhost eleni eto, ac i'r criw o rieni am gynorthwyo gyda'r barbeciw eto fyth. Cafwyd adloniant gan fand ifanc yn y Neuadd dan ofalaeth Mr Alan Phillips - diolch iddyn nhw i gyd. A diolch wrth gwrs i'r holl rieni, cyfeillion, staff, disgyblion (a chyn ddisgyblion) am fynychu'r digwyddiad er gwaetha'r tywydd - gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn fawr.

 

LAB STRAEON YN LLYFRGELL Y DREF

"Bore ma daeth Mrs Delyth Huws o Lyfrgell y Dref i ymweld â'r ysgol er mwyn hysbysebu digwyddiad cyffrous yn Llyfrgell y Dref dros wyliau'r haf. Bydd cyfanswm o chwech o sticeri a gwobrau unigryw i'w hennill wrth ymweld â'r llyfrgell a benthyg llyfrau. Felly, po fwyaf y gwnewch ddefnydd o'r llyfrgell yn ystod gwyliau'r haf eleni, y mwyaf o wobrau gwnewch chi dderbyn! Fel y gwyddoch, mae Llyfrgell y Dref ar safle newydd yn y dref bellach, gydag ardal arbennig wedi'i neilltuo i blant. Mae'n adnodd gwych - gwnewch ddefnydd ohono!"
Carys ac Elinor, Dosbarth 6J

 

GWOBR PLATINWM I'R PWYLLGOR ECO

Llongyfarchiadau i Bwyllgor Eco yr ysgol ar ennill y Wobr Platinwm Eco-Sgolion Cymru. Yr Ysgol Gymraeg yw’r drydedd ysgol yng Ngheredigion i ennill y wobr. Mae’r wobr yma i gydnabod ymdrechion yr ysgol sy’n gweithio tuag at ffordd gynaliadwy o fyw gyda proses yr Eco-Sgolion wedi ei wreiddio ym mywyd yr ysgol. Mae’r ysgol wedi bod yn ymwneud yn barhaus â’r rhaglen ers 2005. Llongyfarchiadau gwresog i bawb.

 

GWIBDAITH Y MEITHRIN I PLAY PLANET



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (139 llun)

Ar ddydd Mercher, aeth plant y Meithrin sydd yn mynychu’r ysgol trwy’r dydd ac yn ystod y bore i Play Planet  yn Llandre. Aethom o’r ysgol ar y bws mawr melyn, dyma gychwyn yr hwyl!
Wedi cyrraedd yr ardal chwarae, cafodd y plant sbri yn rasio lawr y llithren fawr a bach, gwibio o un rhwystr i’r llall ac yn dringo rhwydi a llethrau! Roedd hyn yn waith caled iawn ac o’r diwedd roedd yn amser cael seibiant bach! Mwynhaodd bawb y sudd coch ac oren a llwyth o fisgedi siocled cyn mynd nôl eto am fwy o chwarae a hwyl! Yna, daeth sŵn corn y bws mawr melyn a bu rhaid gadael Play Planet am flwyddyn arall!

 

 

GWERSI BEICIO BLWYDDYN 6



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (73 llun)

Eleni eto mae disgyblion Blwyddyn 6 yn ffodus i dderbyn gwersi beicio yn ystod tymor yr haf. Ar gyfer eu paratoi i fod yn ddiogel wrth feicio ar yr heolydd, mae Mr Terry Jones a Miss Catrin Jones yn ymweld â'r ysgol yn wythnosol i roi gwersi beicio diogel i'r disgyblion. Bydd y gwersi'n gorffen gyda phrawf ymarferol ac ysgrifenedig lle bydd disgwyl i'r plant fod yn fedrus wrth lywio beic, gyda dealltwriaeth dda o reaolau'r ffordd hefyd. Pob hwyl iddyn nhw i gyd, a diolch i'r ddau hyfforddwr am eu hamser a'u hamynedd gyda'r plant.

 

TAITH BRESWYL I WERSYLL YR URDD CAERDYDD



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn o luniau (637 llun)

"Cefais i a gweddill blwyddyn 5 a 6 lawer o hwyl yn Ngwersyll yr Urdd Caerdydd. Ar y diwrnod cyntaf aethom i'r Stadiwm y Mileniwm gan fwynhau taith o gwmpas cyn mynd i'r pwll nofio mawr yn y bae. Yna, aethom i ddadbacio yn y gwersyll cyn mynd yn y nos i fowlio deg. Ar yr ail ddiwrnod aethom i Techniquest, taith o amgylch y Senedd ac o amgylch Canolfan y Mileniwm. Gwelsom berfformiad dawns yno. Cawsom daith tren a thaith cwch hefyd. Ar yr ail noson gwylion ni DVD yn y gwersyll sef y Muppets. Ar y trydydd diwrnod aethom i Big Pit. Roedd yn anhygoel! Buon ni lawr o dan y ddaear mewn lifft ac yna cawson ni daith gyda dyn a oedd yn arfer gweithio yn y pyllau glo. Diolch yn fawr iawn i staff yr ysgol a staff y gwersyll am wneud y trip yn un arbennig o dda!"
Seren, Dosbarth 6J

 

YMWELIAD GAN TOMI TURNER


Dydd Llun daeth Tomi Turner i’r ysgol i siarad â disgyblion Cyfnodau Allweddol 1 a 2. Mae Tomi’n gwneud gwaith achlysurol gyda’r RNLI, a dysgodd ni am bwysigrwydd cadw’n saff ar y traeth ac yn y môr. Cawsom gyfle i weld yr offer a ddefnyddir gan aelodau’r RNLI er mwyn achub pobl sy’n mynd i drafferthion, a chafodd ambell un gyfle i wisgo gwisg lifeguard hefyd! Diolch yn fawr i Tomi am fore hwyliog a diddorol ac am ddysgu sawl neges bwysig i ni a ninnau ar drothwy gwyliau’r haf. 

 
« Newyddion Mehefin 2012 / Newyddion Medi 2012 »