Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 17/Ion
Dydd Llun 20/01/25
Dydd Mawrth 21/01/25
- Cerddorfa ysgol 8:45yb
Dydd Mercher 22/01/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
3:30 - 4:30yp - Ymweliad gan Bennaeth Ysgol Gymraeg y Gaiman, Patagonia
Dydd Iau 23/01/25
- Nofio i fl.4a6
- Ymarfer rygbi i fl.5a6
3:30 - 4:30yp
Dydd Gwener 24/01/25
- Bydd Blwyddyn 6 yn ymuno yn nathliadau Agoriad Swyddogol maes 2G y Ganolfan Hamdden yn ystod y prynhawn
- 3:30 - 5:00 - Disgo Dwynwen y G.Rh.A yn Neuadd yr Ysgol. Mynediad yn £2 - gweler y poster yn Llythyr y Pennaeth
Dydd Sadwrn 25/01/25
- Dydd Santes Dwynwen - ymunwch â ni yn y Parêd - cwrdd wrth Gloc y Dref am 1:45yp
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Chwefror 2012 |
|||||||
CYSTADLEUAETH CELF A CHREFFT RHANBARTH CEREDIGION |
|||||||
» Y disgyblion a ddaeth i'r brig yng nghystadlaethau Celf a Chrefft Ceredigion
Llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd i ddod i'r brig yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd eleni. Yn dilyn eu llwyddiant yn y gystadleuaeth rhanbarthol mae gwaith Nicole a Mali 4J, Brooklyn o 5G a gwaith Cywaith 3M yn mynd ymlaen i'r genedlaethol, gyda'r rhai a ddaeth yn ail a thrydydd yn ennill clod mawr am eu gwaith campus. Da iawn chi blant am roi o'ch gorau i gystadlu. |
|||||||
|
|||||||
CYSTADLEUAETH RYGBI YR URDD |
|||||||
» Aelodau tîm rygbi'r ysgol
Llongyfarchiadau i dîm rygbi'r ysgol am gystadlu yng nghystadleuaeth rygbi'r Urdd, Rhanbarth Ceredigion eleni. Wrth gystadlu yn erbyn ysgolion eraill Ceredigion ar gaeau Clwb Rygbi Aberaeron, enillodd y tîm dair o'u gemau, a cholli dwy. |
|||||||
EISTEDDFOD YSGOL 2012 |
|||||||
» Enillwyr y Prif Wobrau gyda'u tlysau |
|||||||
|
|||||||
BEIRNIADU GWAITH CELF |
|||||||
» Rhai o ddisgyblion yr ysgol yn arddangos eu gwaith gyda Mr Chris Iliff
Braf oedd croesawu Mr Chris Iliff i'r ysgol i feirniadu gwaith Celf y disgyblion ar gyfer Eisteddfod yr Ysgol eleni. |
|||||||
CWMNI DAWNS CYMRU |
|||||||
» Camille a Neus, cynrychiolwyr o Gwmni Dawns Cymru gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 6
Mwynhaodd ddisgyblion blwyddyn 6 brynhawn cyfan o ddawnsio yng nghwmni dawnswyr proffesiynol wrth i'r Cwmni Dawns Cenedlaethol ymweld â'r ysgol. Dan arweiniad medrus Camille a Neus llwyddodd bawb i greu dawns greadigol hyfryd i gerddoriaeth gyfoes. Da iawn bawb! |
|||||||
GWEN YN ENNILL CYSTADLEUAETH YSGRIFENNU LLYTHYR CIP! |
|||||||
» Gwen yn dal rhifyn mis Chwefror o'r Cylchgrawn CIP
Llongyfarchiadau mawr i Gwen o flwyddyn 3 am ennill cystadleuaeth Ysgrifennu Llythyr Cip 2011. Mae Gwen yn un o chwech o enillwyr i gyd, gan ennill gwobr o £40 iddi hi ei hun, a gwobr o £100 i'r ysgol! Waw!
Hoffwn longyfarch Ioan o flwyddyn 4 hefyd am lwyddo i ddod yn agos iawn i'r brig. |
|||||||
Y CYNGOR YSGOL YN CYFARFOD Â'R HEDDLU I DRAFOD PROBLEMAU TRAFFIG |
|||||||
» Aelodau o'r Cyngor Ysgol a Mr Williams yn trafod gyda PC Chris Tipper
"Gwnaethom wahodd PC Chris Tipper i'r ysgol i drafod y problemau traffig gyda ni. Pob dydd mae cannoedd o geir yn llenwi'r ffordd ger yr ysgol, gan wneud yr ardal yn ofnadwy o brysur ac yn beryglus hefyd gan fod rhai yn gor-yrru. Rhannom ein pryderon gydag ef gan ddod i benderfyniad y byddem yn benthyg offer camera o'r orsaf heddlu er mwyn cofnodi cyflymder y cerbydau. Byddwn hefyd yn llythyru'r Cyngor er mwyn cael caniatad i barcio am ddim ar draws y bont gerdded ar amserau arbennig." |
|||||||
« Newyddion Ionawr 2012 / Newyddion Mawrth 2012 » |