Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Tach
Dydd Llun 18/11/24
- Cofiwch wirio eich cyfrif ParentPay wythnos hon er mwyn gweld eitemau presennol e.e cardiau Nadolig, Panto ...
- Diolch am eich cyfraniadau tuag at Blant Mewn Angen - llwyddwyd i godi £321.42
Dydd Mawrth 19/11/24
- Dim neges
Dydd Mercher 20/11/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan - Agor y Llyfr
- Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
3:30-4:30yp - cofiwch fod angen bod yn aelod o'r Urdd ar gyfer hyn
Dydd Iau 21/11/24
- Nofio i fl.3 a 5
- Twrnamaint pêl-rwyd cymysg yr Urdd yn y Brifysgol
- Gêmau hoci i fl.6 - cliciwch i weld amserlen gemau mis Tachwedd
Dydd Gwener 22/11/24
- Cerddorfa 8:30yb
LAWRLWYTHIADAU
Newyddion
Rhagfyr 2013 |
|
ANFON A DERBYN CARDIAU NADOLIG O EWROP |
|
Yr wythnos hon bydd chwech o gardiau Nadolig arbennig iawn yn cael eu hanfon o’r Ysgol Gymraeg at ein hysgolion partner ym mhob cwr o Ewrop. Fel rhan o waith ein prosiect Comenius ‘The Good Life’, byddwn yn anfon cerdyn at yr ysgolion yn y Ffindir, Denmarc, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal ac Ysgol Llwyn yr Eos yma yng Nghymru. Mae’r cardiau’n cynnwys dyluniadau gan un disgybl o bob blwyddyn trwy’r ysgol o blith y cannoedd o gardiau a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Cynllun Cardiau Nadolig Blwyddyn 6. Cyffrous iawn hefyd yw derbyn y cardiau hyfryd sydd wedi dechrau cyrraedd oddi wrth ein ffrindiau o Ewrop. |
|
YMWELIAD GAN ALICE EVANS |
|
Dydd Llun fe ddaeth Alice Evans, cyn ddisgybl yr ysgol i siarad gyda Blwyddyn 3 a 4 am ei phrofiad o chwarae pêl-droed i dîm menywod Cymru. Mae Alice wedi ennill sawl cap i Gymru yn chwarae fel gôl geidwad. Da iawn hi a phob lwc blwyddyn nesaf wrth i Gymru frwydro i geisio cyrraedd Cwpan y Byd. |
|
SOFFIA YN AELOD WRTH GEFN CERDDORFA PRYDAIN |
|
Llongyfarchiadau mawr i un o ddisgyblion Blwyddyn 5 yr ysgol ar ennill ei lle yng Ngherddorfa Prydain Fawr. Bu raid i Soffia, sydd wedi chwarae'r ffidil er pan oedd hi'n saith oed, fynd i glyweliad yng Nghanolfan y Celfyddydau gan chaware dau ddarn o flaen panel o bobl. Roedd Soffia wrth ei bodd yn ddiweddar pan dderbyniodd lythyr yn datgan ei bod yn aelod wrth gefn, a'i bod yn gallu mynd i Weston-Super-Mare bob mis er mwyn ymarfer gyda'r gerddorfa. Yn y llun gwelir Soffia gyda'i hathrawes Mrs McGuinness. Llongyfarchiadau mawr i'r ddwy. |
|
Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (142 llun) |
Braf oedd gweld y Neuadd Fawr yn orlawn ar gyfer cyngerdd Nadolig yr ysgol. Bu’r Cyfnod Sylfaen yn sôn am greu y ‘Crud newydd i’r Baban Iesu’ gyda phawb yn canu ac yn llefaru yn wych, roedd pawb yn smart iawn yn eu gwisgoedd lliwgar. Bu Cyfnod Allweddol 2 yn sôn am hanes criw o angylion a ddaeth lawr i’r Ddaear i helpu gyda stori’r geni, cawsant help gan griw fferm factor, y digartref, dawnswyr ‘strictly’ a’r plismyn pwysig wrth gwrs. Llwyddwyd i osgoi Herod a’i fownsars cas! Cafwyd ymateb arbennig gan bawb. |
LLWYDDIANT MEWN GYMNASTEG |
|
Llongyfarchiadau i griw o ferched yr ysgol ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd yn ddiweddar. Cynhaliwyd y gystadleuaeth rhanbarthol yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, gyda'r merched yn cystadlu'n unigol, mewn parau, triawdau ac fel tîm. Canlyniadau: |
|
IESTYN YN CWRDD AG ARWR RYGBI AWSTRALIA |
|
Dros y penwythnos mi chwaraeodd Cymru ei gêm olaf yng nghyfres gêmau rygbi'r Hydref yn erbyn Awstralia. Colli fu hanes Cymru ond roedd un Cymro bach yn gwenu ar ddiwedd y gêm wrth i un o gewri tîm Awstralia, y mewnwr Will Genia, benderfynu cerdded draw am sgwrs a rhoi yr esgidiau arbennig y bu'n eu gwisgo yn ystod y gyfres i Iestyn Llŷr! Gobeithiwn y bydd dy draed yn tyfu'n glou er mwyn i ti gael eu gwisgo nhw cyn hir, Iestyn! |
|
« Newyddion Tachwedd | |