Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 04/Hydref

 

Dydd Llun 07/10/24

  • Bydd ffurflen archebu lluniau unigolion a theuluoedd ym mag eich plant heddiw

Dydd Mawrth 08/10/24

  • P.C Hannah ym mlwyddyn 6
  • Ymarfer rygbi tag ar gyfer merched bl.5a6 3:30—4:30yp

 

Dydd Mercher 09/10/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Clwb yr Urdd i fl.2,4a6
    3:30-4:30yp - cofiwch fod angen bod yn aelod o'r Urdd ar gyfer hyn

 

Dydd Iau 10/10/24

  • Nofio i fl.4 a 6
  • * DOES DIM GEMAU AR GYFER YR YSGOL GYRAEG WYTHNOS HON* Gêmau hoci i fl.6 - tri thîm o'r ysgol yn chwarae'n wythnosol - gweld amserlen

 

Dydd Gwener 11/10/24

  • Diwrnod Rhyngwladol yr ysgol

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Mehefin 2012

CWIS Y CYNGOR LLYFRAU


Llongyfarchiadau mawr i'r plant a gynrychiolodd yr ysgol yn Rownd Derfynol y Cwis Llyfrau eleni.

Roedd yna ddwy elfen i'r gystadleuaeth sef trafod un llyfr a rhoi cyflwyniad ar lyfr arall. Yn y rownd genedlaethol eleni llwyddodd y grŵp trafod i ennill y gystadleuaeth, gyda'r ysgol yn dod yn drydydd wrth gyfuno marciau'r trafod a'r cyflwyniad.

Yn y llun gyferbyn gweler aelodau'r grŵp trafod gyda Miss Llwyd sef Siwan Heledd, Beca, Siwan Fflur ac Eluned, ac yn y llun odditano gweler holl aelodau'r cyflwyniad yn eu gwisgoedd cyfnod yr Ail Ryfel Byd sef Mary, Imogen, Siwan Fflur, Elinor, Siwan Heledd, Beca, Evan ac Eluned. Roedd Anest hefyd yn aelod o'r ddau grŵp ond yn anffodus methodd gymryd rhan oherwydd salwch.

Diolch yn fawr i'r Cyngor Llyfrau am gynnal digwyddiad wnaeth roi boddhad mawr i'r plant wrth baratoi at y diwrnod yn darllen a thrafod gwahanol lyfrau. Roedd hi hefyd yn fraint cael cyfarfod â'r artist enwog Jac Jones ar y diwrnod - diolch iddo am gyflwyniad diddorol dros ben am ei waith fel artist ac awdur.

 

GWIBDAITH BLWYDDYN 2



Yn y bore aethom i Ganolfan y Barcud yn Nhregaron. Roeddem yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at gael gweld hen ystafell ddosbarth. Cafodd y merched wisgo pinaffor gwyn ac yna aethom i eistedd ar feinciau tu ol i ddesgiau pren. Roedd yn rhaid i ni siarad Saesneg yn y dosbarth neu fe fydden ni’n gorfod gwisgo’r Welsh Not am ein gwddf. Buom yn adio ac yn adrodd tabl 2 gan ddefnyddio abacws pren. Roedd yr athro yn ysgrifennu geiriau Saesneg ar y bwrdd du efo sialc. Cyn ateb cwestiwn roedd yn rhaid i ni ddweud ‘Please Sir..’ Cawsom gyfle i ysgrifennu ar lechen efo sialc ac yna i ysgrifennu ar bapur efo pen ac inc. Buom yn canu Doh-Re-Mi a chawsom gwis. Ar ôl hynny cawsom ddiod oren a chacen gry a chyfle i brynu pethau diddorol yn y siop. Yna nôl â ni i’r bws a theithio i Fwlch Nant yr Arian. Cawsom bicnic yno a chyfle i chwarae yn y parc. Buom yn cerdded o amgylch y llyn gan ddilyn map, darllen cliwiau a chwilio am anifeiliaid pren. Cawsom ddiwrnod wrth ein bodd!

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (68 llun)

 

 

LLUN YSGOL GYFAN

Mae'r llun ar gael i'w brynu o'r ysgol. Ewch i weld Wendy James am fwy o wybodaeth

 

CYNGERDD HAF LWYDDIANNUS ARALL



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (139 llun)

» Y Neuadd Fawr dan ei sang eleni eto wrth i holl blant yr ysgol berfformio amrywiaeth o eitemau ar y llwyfan. Diolch yn arbennig i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am gynorthwyo gyda'r trefniadau ac i'r holl rieni a theuluoedd am gefnogi'r noson. Diolch yn fawr hefyd i'r holl noddwyr am eu cefnogaeth hael.


I weld y casgliad llawn cliciwch yma

 

I archebu llun/iau cysylltwch gyda'r ffotograffydd Anthony Jarrett ar 01970 832726 neu gliciwch yma

 

CYSTADLEUAETH GRICED CYLCH ABERYSTWYTH

Da iawn i dîm Criced yr ysgol ar gystadlu mor dda yn nhwrnament Cylch Aberystwyth eleni. Llwyddodd y tîm i ennill y rownd gyntaf, cyn mynd ymlaen i ennill dwy gêm ac yna colli yn y gêm gyn-derfynol. Anlwcus bois!

 

LLWYDDIANT YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD ERYRI 2012

Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yng Nglynllifon eleni.
Llwyddodd 6 o gystadlaethau'r ysgol gyrraedd y llwyfan. Dyma nhw:

1af

Cyst. 177
Côr (Y.C.) Bl 6 ac iau (Ysg. dros 150)

Llongyfarchiadau mawr i gôr yr ysgol ar ennill y gystadleuaeth hon eleni. Diolch yn fawr hefyd i'w hyfforddwr ac arweinydd Mr Aled Morgan ac i'r cyfeilydd Miss Gwenan Morgan am roi o'u hamser i'w hyfforddi.

Cliciwch yma ac ewch i waelod y dudalen ar gyfer eu gwylio ar wefan S4C

1af

Cyst. 274
Dawns Cyfansoddiad Creadigol (Cymysg) Bl 6 ac iau

Llongyfarchiadau mawr i'r Grŵp Dawns Cyfansoddiad Creadigol ar ei llwyddiant eleni. Diolch i Rachel West am eu hyfforddi.

Cliciwch yma ac ewch i waelod y dudalen ar gyfer eu gwylio ar wefan S4C

1af

Cyst. 201
Cyflwyno Alaw Werin Unigol Bl 6 ac iau

Llongyfarchiadau mawr i Beca ar ennill yr Alaw Werin eleni. Yn ogystal â'r fedal aur mae Beca'n ennill taith i Euro Disney. Waw! Mwynha dy hun!

Cliciwch yma ac ewch i waelod y dudalen ar gyfer ei gwylio ar wefan S4C

2ail

Cyst. 245
Côr Cerdd Dant (Adran/Y.C.) Bl 6 ac iau

Llongyfarchiadau mawr i gôr cerdd dant yr ysgol ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth hon eleni. Diolch yn fawr i'w hyfforddwraig Mrs Bethan Bryn Jones ac i'r cyfeilydd Mrs Mary Jones Morris am eu hamser yn hyfforddi'r plant.

Cliciwch yma ac ewch i waelod y dudalen ar gyfer eu gwylio ar wefan S4C

2ail

Cyst. 277
Dawns Hip-Hop/Stryd/Disgo Bl 6 ac iau

Llongyfarchiadau mawr i Mary ar ddod yn ail yn y gystadleuaeth hon eleni, a hynny ar ei hymgais gyntaf! Go lew ti!

Cliciwch yma ac ewch i waelod y dudalen ar gyfer ei gwylio ar wefan S4C



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (23 llun)

3ydd

Cyst. 242
Unawd Cerdd Dant Bl 5 a 6

Llongyfarchiadau mawr i Anest ar ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth hon eleni. Anest oedd un o ddisgyblion prysuraf yr ysgol gan gystadlu mewn 8 cystadleuaeth i gyd! Tipyn o gamp!

Cliciwch yma ac ewch i waelod y dudalen ar gyfer ei gwylio ar wefan S4C

 

ARTEFFACT BLWYDDYN 3 YN FUDDUGOL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD

» Yr arteffact buddugol ynghyd â'r dystysgrif

Llongyfarchiadau enfawr i Grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 3 ar lwyddo i ennill un o gystadlaethau Celf, Dylunio a Thechnoleg yr Eisteddfod gyda'u arteffact ar y thema Symud, Cynnwrf neu Dathlu. Gwnaethpwyd arteffact o'r Cobyn Cymreig allan o froc môr, gyda'r cwpled canlynol yn adrodd ei stori:

Yn geffyl cadarn, yn ferlyn y ffridd
Y cob yw ein ffefryn ers slawer dydd.

 

PRINTIAU LLIW ELINOR YN AIL YN EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD

» Printiau lliw Elinor a ddaeth yn agos iawn at y brig eleni.

Mae Elinor yn un sydd wedi cystadlu'n frwd gyda ffotograffiaeth yn Eisteddfod yr Urdd bob blwyddyn. Eleni, am y tro cyntaf, llwyddodd i gynnal y rownd genedlaethol gan ddod yn ail - campus yn wir. Llongyfarchiadau mawr iddi.

 

DIWRNOD PINC ER COF AM ANGHARAD MAIR WILLIAMS



Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (80 llun)

Trefnwyd 'Diwrnod Pinc' gan y Cyngor Ysgol heddiw i gofio am gyn-ddisgybl, Angharad Mair Williams a fu farw ar ddiwedd mis Tachwedd y llynedd yn 14 mlwydd oed. Roedd Angharad wrth ei bodd gyda'r lliw pinc, ac felly pa liw gwell i annog plant yr ysgol i wisgo ar ddiwrnod i'w coffau?! Diolch i bawb a gyfrannodd £1 am wisgo pinc - bydd yr arian yn cael ei gyfrannu i elusen Ysbyty Great Ormond Street, gyda rhai aelodau o staff, cyfeillion yr ysgol a theulu Angharad yn teithio i Lundain ganol mis Awst.
Darllenwch fwy am y daith honno yma
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Llwyddwyd i godi £425.90 heddiw!! Diolch yn fawr iawn
gan y Cyngor Ysgol

 

MAE'R CYWION WEDI HEDFAN O'R NYTH!

Fore dydd Iau diwethaf, ar ôl bron i bedair wythnos, fe wnaeth ein cywion bach hedfan y nyth. Roedd hi’n braf eu gweld yn tyfu’n ddigon mawr i adael ond hefyd yn drist iawn ar yr un pryd. Roedd y ddau oedolyn wedi bod yn weithgar iawn dros yr wythnosau yn chwilio am fwyd i’r cywion ac yn eu cadw’n gynnes, rydym yn gobeithio bod y cywion yn iawn ac yn mwynhau eu hunain.

Cliciwch yma i weld y clip fideo olaf ohonynt cyn iddynt adael

 
« Newyddion Mai 2012 / Newyddion Gorffennaf 2012 »