Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 13/Rhag
Dydd Llun 16/12/24
- Diolch i bawb am eich cefnogaeth i'r Gyngerdd Nadolig nos Iau diwethaf
- Prynhawn Agored y Meithrin ar gyfer plant newydd Ionawr 1:15yp
Dydd Mawrth 17/12/24
- Dim neges
Dydd Mercher 18/12/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
- Cinio Nadolig yr ysgol, a diwrnod Siwmper Nadolig
- Dim Clwb yr Urdd tan y gwanwyn
Dydd Iau 19/12/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Dim nofio wythnos hon
- SINEMA i bawb heblaw Meithrin - 'Arthur Christmas' - **cofiwch fod angen casglu eich plentyn o Sinema'r Commodore am 3:15yp os gwelwch yn dda**
Dydd Gwener 20/12/24
- Dim Cerddorfa heddiw
- Diwedd tymor 3:30yp
- Nadolig Llawen i chi i gyd
- Bydd y tymor newydd yn cychwyn i bawb ar ddydd Llun y 6ed o Ionawr 2025
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Medi 2011 |
|
BLWYDDYN 4 YN YMWELD Â GORSAF BŴER CWM RHEIDOL |
|
» Cylch lluniau ymweliad Blwyddyn 4 gyda'r Orsaf Bŵer yng Nghwm Rheidol
"Roedd yr Orsaf Bŵer yn ddiddorol iawn. Wnes i fwynhau gweld y pysgod yn arbennig, a'r rhaeadr ddŵr. Roedd yn rhaid inni wisgo siacedi llachar, melyn ac helmed er mwyn bod yn ddiogel. Gwelson ni nifer o wahanol beiriannau a dysgon ni lawer gan y bobl oedd yn gweithio yno." |
|
ARAD GOCH YN CYFLWYNO 'AR EICH MARCIAU' |
|
» Croesawyd Ffion Bowen a Chwmni Theatr Arad Goch i'r ysgol i berfformio 'Ar Eich Marciau' i flynyddoedd 5 a 6. Mwynhaodd y plant y perfformiadau yn arw, a diolch i Arad Goch am gynhyrchiad llawn egni a gobaith, ac am rannu negeseuon pwysig unwaith yn rhagor |
|
CYMRU YN ERBYN NAMIBIA |
|
» Fideo o ddisgyblion, rhieni a staff yr ysgol yn gwylio Gêm Cymru a Namibia yng Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd
"Roedd cael dod mewn i'r ysgol yn gynnar i wylio'r gêm yn grêt! Daeth Dad gyda ni hefyd! Ro'n i mor falch gweld Cymru yn chwarae mor dda ac yn sgorio gymaint o geisiau - 12 i gyd! Roedd y tost a sudd oren hanner amser yn flasus hefyd!" |
|
ARDDANGOSFA GELF YN Y MORLAN |
|
» Cylch lluniau disgyblion yr ysgol yn mwynhau arddangosfa gelf yn y Morlan
"Wnes i fwynhau'r arddangosfa, yn enwedig gan fod gwaith Cefyn Burgess yno, oherwydd ry'n ni'n astudio ei waith yn y dosbarth." |
|
BLWYDDYN 6 YN AMGUEDDFA WLÂN CYMRU |
|
» Cylch lluniau disgyblion Blwyddyn 6 yn ymweld ag Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre
"Cawsom lawer o hwyl yn yr Amgueddfa Wlân wrth gael cyfle i ffeltio gwlân ein hunain ac wrth gwrs gael ein tywys o gwmpas yr holl beiriannau sydd yno. Roedd ambell i beiriant yn swnllyd iawn, ac un neu ddau yn anferth! Roedd hi'n ddiddorol iawn gweld gyda fy llygaid fy hunan beth oedd yn digwydd yn y ffatrioedd gwlân yma. Trip bendigedig!" |
|
BLWYDDYN 5 YNG NGHASTELL HENLLYS |
|
» Cylch lluniau disgyblion Blwyddyn 5 yn ymweld â'r bryngaer geltaidd, Castell Henllys
"Roedd mynd i Gastell Henllys yn brofiad gwahanol iawn! Roedd yn rhaid cerdded dros bont a gweiddi'n ffyrnig er mwyn cael mynediad i'r hen fryngaer geltaidd! Cawsom hwyl wrth bobi bara, plethu basgedi a chynorthwyo i adeiladu tŷ crwn newydd! Er mwyn ein paratoi ar gyfer rhyfela, wnaethon nhw beintio ein hwynebau gyda phaent glas! Roedden ni i gyd yn edrych yn ffyrnig iawn!" |
|
YMWELIAD GAN DAFYDD JONES |
|
» Dafydd Jones, cyn chwaraewr rygbi y Scarlets a Chymru yn brysur yn llofnodi ar fuarth yr ysgol!
Daeth Dafydd atom i roi gwybodaeth am Wersyll Chwaraeon y Scarlets a fydd yn cael ei gynnal yn ystod wythnos hanner tymor. Clicwch yma am fwy o wybodaeth. |
|
CROESAWU MR GERAINT THOMAS I'R GWASANAETH |
|
» Rhai o ddisgyblion yr ysgol gyda Mr Geraint Thomas yn ystod ein gwasanaeth boreol.
Rhannodd Mr Thomas wybodaeth am y 'Backpack Project', a byddwn ni fel ysgol yn cyfrannu at y prosiect hwnnw. Cliciwch yma i ddysgu mwy |
|
» Dangosodd Mr Thomas y fideo yma i ni. Mae'n egluro sut y mae'r prosiect yn gwella bywydau plant ym Malawi. Cliciwch arno i'w wylio.
Mae croeso i ddisgyblion yr ysgol ddod ag eitemau i'r ysgol er mwyn llenwi'r gwarfagiau. Mae'r llun isod yn dangos pa fathau o eitemau sydd eu hangen. |
|
TAITH BLWYDDYN 3 O GWMPAS Y DREF |
|
Ar ddydd Gwener, y 9fed o Fedi, aethon ni ar drip o amgylch y dre’. Dechreuon ni wrth weld cadair Gwenallt a enillodd yn Eisteddfod Bangor 1931. Yna aethon ni drwy’r fynwent a heibio bedd Gwenallt. Yna, pasion ni Swyddfa’r Urdd, ac yna gweld safle’r ysgol gymraeg gyntaf, lle oedd dim ond 7 o blant. Aethon ni nesaf i Lle’r Ffald lle redden nhw yn gofalu am anifeiliaid strae. Yna i Stryd y Poplys a cwrdd â Mr a Mrs Morgan, a rhoddon nhw fisgedi a sgwash i ni! (mmm…) Yn Rhes y Poplys roedd arfer bod coed a nant yn rhedeg trwyddo. Wedyn aethon ni at Stryd y Crwynwr a dwedodd Mr Morgan (y gofalwr) ychydig o’i hanes, roedd arfer bod ffwrn wal yno. Yna, aethon ni heibio i Morris and Bates, roedd Morris and Bates yn arfer bod yn ffatri haearn. Wedyn aethon ni heibio’r hen Ysgol Gymraeg (roedd Mami’n mynd yna). Aethon ni heibio Banc y Ddafad Ddu (y banc cyntaf yng Nghymru yn ôl y sôn.) Yna aethon ni i’r parc (hwre!), yna lan i’r castell. Mae 13 carreg ac enwau’r siroedd arnynt. Yna roedd pawb wedi cael llun o dan yr angel heddwch i gofio pawb sydd wedi marw yn y rhyfel. |
|
Newyddion Hydref 2011 » |