Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 13/Rhag
Dydd Llun 16/12/24
- Diolch i bawb am eich cefnogaeth i'r Gyngerdd Nadolig nos Iau diwethaf
- Prynhawn Agored y Meithrin ar gyfer plant newydd Ionawr 1:15yp
Dydd Mawrth 17/12/24
- Dim neges
Dydd Mercher 18/12/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
- Cinio Nadolig yr ysgol, a diwrnod Siwmper Nadolig
- Dim Clwb yr Urdd tan y gwanwyn
Dydd Iau 19/12/24
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Dim nofio wythnos hon
- SINEMA i bawb heblaw Meithrin - 'Arthur Christmas' - **cofiwch fod angen casglu eich plentyn o Sinema'r Commodore am 3:15yp os gwelwch yn dda**
Dydd Gwener 20/12/24
- Dim Cerddorfa heddiw
- Diwedd tymor 3:30yp
- Nadolig Llawen i chi i gyd
- Bydd y tymor newydd yn cychwyn i bawb ar ddydd Llun y 6ed o Ionawr 2025
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Mai 2012 |
|
ARDDANGOSFA GELF KIM JAMES-WILLIAMS |
|
Cafodd ddisgyblion blynyddoedd 3 a 6 yr ysgol gyfle i ymweld ag arddangosfa o waith celf un o rieni'r ysgol heddiw. Mae Kim wedi bod yn brysur iawn gyda'i gwaith ymchwil yn arbrofi ac ymarfer - cofiwn iddi ddod i'r ysgol tua deufis yn ôl i lunio disgyblion a staff wrth eu gwaith bob dydd, a heddiw gwelsom ffrwyth y gwaith hwnnw yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Diolch iddi am ei sgwrs ddiddorol, ac am ddangos inni sut y mae hi'n llunio pobl. |
|
Y FFAGL OLYMPAIDD YN DOD I'R YSGOL |
|
Braf oedd croesawu un o gludwyr y fflam Olympaidd i'r ysgol heddiw. Daeth Bridget James, a gariodd y ffagl o'r Llyfrgell Genedlaethol i fyny rhiw Penglais yn y bore, i'r ysgol yn y prynhawn gyda'i ffagl gan ymweld â phob dosbarth er mwyn i'r disgyblion weld a dal y ffagl eu hunain. Yma'n y llun mae Bridget yn sefyll gyda chriw o blant a benderfynodd redeg wrth ei hymyl ar hyn y lôn sy'n arwain i lawr o'r llyfrgell. Am blant heini! |
|
RAS FEICS HALFORDS |
|
|
Yn wahanol iawn i llynedd, roedd yr haul yn tywynnu ar y prom a chyfres beicio Halfords eleni. Roedd yr haul hefyd yn tywynnu ar feicwyr yr Ysgol Gymraeg wrth iddyn nhw gipio nifer o wobrau yn ystod y prynhawn. Llongyfarchiadau mawr i Dwynwen o flwyddyn 6 ar ennill y ras i ferched blynyddoedd 5a6, ac i Sioned o flwyddyn 5 a ddaeth yn ail a Lily o flwyddyn 6 yn drydydd. Yn y ras i fechgyn blynyddoedd 3a4 llwyddodd Iestyn Llŷr i gipio'r ail safle. Da iawn i bawb arall hefyd a gystadlodd yn yr holl rasys gyda nifer yn dod yn y deg cyntaf. |
CWMNI THEATR ARAD GOCH YN CYFLWYNO GUTO NYTH BRÂN |
|
I gyd-fynd gyda digwyddiad y Gêmau Olympaidd eleni, ac yn arbennig ymweliad y fflam â thref Aberystwyth penwythnos yma, roedd hi'm amserol iawn i ddisgyblion blynyddoedd 3,4,5a6 ymweld â Theatr y Werin i weld perfformiad o Guto Nyth Brân. Diolch unwaith yn rhagor i Gwmni Theatr Arad Goch am gynhyrchiad wnaeth roi llawer o fwynhad i'r plant a'r staff, wrth ddod â stori "bachgen cyflyma'r byd" yn fyw inni. |
|
TAITH GERDDED Y GYMDEITHAS RIENI AC ATHRAWON |
|
Diolch o galon i bawb a ddaeth i gefnogi'r daith gerdded eleni. Braf oedd gweld cynifer o gerddwyr - yn ddisgyblion, rhieni, perthnasau, staff a chyn-ddisgyblion yr ysgol yn mwynhau'r tywydd braf a chael wâc hamddenol ar hyd y llwybrau gwahanol: ar hyd rhodfa Plascrug ar gyfer y plant bach; a draw i'r cae criced ac yn ôl i'r plant hŷn. Diolch yn arbennig hefyd i gwmni Tŷ Nant am noddi'r noson, ac am gyfrannu cannoedd o boteli o ddŵr i bawb gael dorri'u syched ar noson mor braf. |
|
EDRYCHWCH PWY SY'N PRIFIO! |
|
Fel y gwelwch, mae'r cywion wedi bod yn brysur iawn yn bwyta llawer iawn o fwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf! Maen nhw bellach wedi tyfu'n gywion mawr, a chyn hir byddant yn ystyried hedfan o'r nyth am y tro cyntaf. Mae eu rhieni yn parhau i'w bwydo yn gyson er mwyn iddyn nhw dyfu'n fwy a chael nerth i hedfan. Bydd raid inni gadw llygad manwl arnynt er mwyn gweld hynny'n digwydd. |
|
BLWYDDYN 2 YN DILYN LLWYBR TAITH GYFNEWID Y FFLAM OLYMPAIDD |
|
|
» Staff a disgyblion un o ddosbarthiadau blwyddyn 2 yn sefyll o gwmpas map o Gymru a'r lleoliadau y bydd y fflam yn ymweld â hwy |
DIOLCH MRS PITCHER! |
|
Diolch yn fawr eto fyth i un o rieni'r ysgol, Mrs Pitcher, am ei gwaith cyson yn cynorthwyo gyda thwtio a chymennu ardaloedd gwyrdd yr ysgol. Yma mae ei merch a'i ffrindiau yn ei helpu i blannu blodau a phlanhigion yn y border ger y Prif fynedfa. Diolch Mrs Pitcher am eich holl waith drwy gydol y flwyddyn! |
|
DIWRNOD ELFED YM MLWYDDYN 2 |
|
Yn ystod y tymor rydym wedi bod yn gwneud nifer o weithgareddau yn seiliedig ar stori 'Elfed'. Fel uchafbwynt i'r gweithgareddau hyn, cawsom barti i ddathlu 'Diwrnod Elfed'. Buom yn brysur yn paratoi ar gyfer y parti. Buom yn creu posteri, gwahoddiadau a chardiau deniadol ar y cyfrifiadur. Buom yn creu hetiau parti lliwgar. Gwnaethom hydoddi jeli a mesur dwr yn ofalus gan wneud yn siwr ein bod yn rhannu'r jeli yn gyfartal. Gwnaethom frechdanau ham, jam a chaws a buom yn addurno cacennau bach Mrs Atkinson. Roedden nhw'n flasus iawn! Cawsom bicnic tu allan i gaffi Elfed a buom yn dawnsio a chael hwyl a sbri. Cawsom ddiwrnod wrth ein bodd! |
|
MARTHA MASNACH DEG |
|
Buom yn lwcus iawn i gael ymwelydd diddorol ym mlwyddyn 5 ar Ddydd Mawrth yr ail ar hugain o Fai. Daeth Martha yr holl ffordd o Simbabwe i ddweud wrthym am sut mae Masnach Deg wedi gwella ansawdd bywyd ei theulu yn ôl yn Simbabwe. Dangosodd luniau i ni o’i mam a’i phlant yn Simbabwe a’r ffynnon ddwr newydd mae arian Masnach Deg wedi rhoi iddynt. Enillodd Anna a Jack siocled Masnach Deg am eu bod wedi ateb cwestiynau yn gywir. Ar ôl ein sgwrs yn y dosbarth aethom allan i’r heulwen braf yn yr ardd natur i fwynhau gweithdy drymio Affricanaidd. Cawsom bob un gyfle i daro’r drymiau a dysgu rhythm curiadau Affricanaidd, a bu Martha yn ein dysgu i ganu caneuon hefyd. Bu Martha (a Elsie!) hefyd yn dawsnio i sain hudol y gerddoriaeth Affricanaidd. Roedd hi wir yn olygfa i’w chofio! |
|
BLWYDDYN 3 YN YMWELD Â CHOMISIWN HENEBION CYMRU |
|
Bu plant blwyddyn 3 yn brysur iawn fore dydd Mawrth yng Nghomisiwn Henebion Cymru yn Aberystwyth yn edrych ar awyrluniau, mapiau ac hen ffotograffau o'r dref dros y ganrif ddiwethaf. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Comisiwn am y croeso cynnes ac am y cyfle i ddysgu mwy am ein hardal leol. |
|
BLWYDDYN 6 YN Y GERDDI BOTANEG |
|
|
Er mwyn cefnogi'r gwaith a wneir yn y dosbarth ar gyfer Daearyddiaeth y tymor hwn, aeth blwyddyn 6 ar ymweliad i'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol ger Llanarthne. Pwrpas y daith oedd er mwyn dysgu a gweld enghraifft o sut i fyw yn wyrdd, gan fod yr ardd yn gynaladwy iawn. Mae'n casglu'r dwr glaw i gyd, yn tyfu helyg ei hun ar gyfer bwydo boiler biomass ei hun ac yn trin gwastraff ar y safle ayyb. Diolch yn fawr i Gloria am ein tywys o gwmpas yr ardd, ac am ei holl ffeithiau a gwybodaeth ddiddorol. |
GWOBRAU Tir na nÓg |
|
» Mrs Delyth Huws o Lyfrgell y Dref gyda'r disgyblion fu'n rhoi cyflwyniad ar y tri llyfr sydd ar y rhestr fer |
|
DIWRNOD BEICS BLWYDDYN 1 |
|
Roedd hi'n ddiwrnod beics ym mlwyddyn 1 heddiw. Daeth pawb i'r ysgol gyda'u beiciau a'u sgwteri er mwyn treulio cyfnod yn beicio o gwmpas yr iard, gan fynd heibio i gônau gwahanol liw a thrwy bylchau cul hefyd. Cafodd bawb llawer o hwyl yn beicio gyda'i gilydd, gan ddysgu sut i feicio'n ofalus heb daro i mewn i neb arall, sydd yn dipyn o gamp! |
|
COCH, OREN A GWYRDD! |
|
» Disgyblion y Dosbarthiadau Derbyn yn dysgu am oleuadau traffig |
|
GWAITH YN CYCHWYN AR YR ESTYNIAD |
|
Bellach mae'r gwaith wedi cychwyn ar adeiladu estyniad i neuadd yr ysgol. Bydd yr ystafell ychwanegol yn golygu y bydd modd i ni greu dwy ystafell ar gyfer rhai gweithgareddau megis Addysg Gorfforol a Cherdd yn ogystal â chael un ystafell fawr ar gyfer amser cinio a gwasanaethau boreol. Mi fydd y Clwb Gofal Plant yn cael ei leoli yn yr adeilad newydd hefyd. |
|
TRAWS GWLAD CENEDLAETHOL YR URDD |
|
» Iestyn a Rhys gyda'u medalau ar ddiwedd y ras |
|
TWRNAMENT PÊL-DROED CENEDLAETHOL YR URDD |
|
» Tim pêl-droed yr ysgol |
|
CWIS LLYFRAU CEREDIGION |
|
» Aelodau'r Cwis Llyfrau fu'n fuddugol yn y gystadleuaeth i ddisgyblion blynyddoedd 5a6 |
|
"I BLE GEI DI DY GLUDO PAN FO'R HAUL YN SUDDO?" |
|
» Siwan gyda'i llinell o farddoniaeth ar y prom yn Aberystwyth |
|
RAS FEICS CA2! |
|
» Disgyblion yr ysgol yn awyddus i gychwyn y ras! |
|
AMSER PLANNU! |
|
» Rhai o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn plannu courgettes |
|
BWYDO'R CYWION BACH |
|
» Fideo : Amser bwyd! |
|
NIA YN FASGOT I GLWB PÊL-DROED BIRMINGHAM! |
|
» Nia yn dal rhaglen gêm Birmingham yn erbyn Blackpool, ynghyd â thystysgrif a gyflwynwyd iddi gan y clwb |
|
DAMIEN WALFORD DAVIES YN YMWELD Â BLWYDDYN 1 |
|
» Criw o ddisgyblion Blwyddyn 1 gyda'r Athro Damien Walford Davies |
|
AGORIAD SWYDDOGOL LLWYBR YR ARFORDIR |
|
» Criw o blant yr ysgol yn cael eu ffilmio ar gyfer y rhaglen deledu 'Bro' |
|
BLWYDDYN 3 YN YMWELD Â FFERM CWMWYTHIG |
|
|
» Lloi fferm Cwmwythig yn ymlacio ar y gwellt! |
Y CYWION YN DEOR! |
|
» Fideo o'r cywion bach yn deor am y tro cyntaf |
|
« Newyddion Ebrill 2012 / Newyddion Mehefin 2012 » |