Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 15/Tach

 

Dydd Llun 18/11/24

  • Cofiwch wirio eich cyfrif ParentPay wythnos hon er mwyn gweld eitemau presennol e.e cardiau Nadolig, Panto ...
  • Diolch am eich cyfraniadau tuag at Blant Mewn Angen - llwyddwyd i godi £321.42

Dydd Mawrth 19/11/24

  • Dim neges

 

Dydd Mercher 20/11/24

  • Gwasanaeth Ysgol Gyfan - Agor y Llyfr
  • Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
    3:30-4:30yp - cofiwch fod angen bod yn aelod o'r Urdd ar gyfer hyn

 

Dydd Iau 21/11/24

 

Dydd Gwener 22/11/24

  • Cerddorfa 8:30yb

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Mawrth 2014

LLWYDDIANT YN YR EISTEDDFOD RHANBARTH



Unawd Llinynnol Blwyddyn 6 ac iau
3ydd - Soffia Nicholas
Ensemble Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Cerddorfa/Band Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran ac a gafodd llwyddiant yn yr Eisteddfod Rhanbarth eleni.

Pob hwyl i'r saith cystadleuaeth torfol a fydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meirionydd ddiwedd mis Mai.

 


Canlyniadau:
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 5 a 6
3ydd - Llŷr Eirug
Cyflwyno Alaw Werin Bl. 6 ac iau
2il - Cadi Williams
Grŵp Llefaru Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Blwyddyn 6 ac iau

1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Grwp Dawnsio Creadigol
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Grwp Dawnsio Cyfrwng Cymysg
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

 

Y BONHEDDWR DAVID MEREDITH YN AGOR Y PRYNHAWN COFFI

Dyma Mr David Meredith gyda'i fab Owain
a phedwar o'i wyrion

Agorwyd y Prynhawn Coffi eleni gan un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, Mr David Meredith.

Yn wir, roedd Mr Meredith yn un o ddisgyblion cynharaf yr ysgol, gyda'i frawd John yn un o'r saith disgybl cyntaf nôl ym 1939. Cafwyd araith ddiddorol a phwrpasol iawn ganddo, a diolchwn iddo am ei eiriau caredig wrth agor y prynhawn mewn neuadd a oedd dan ei sang fel arfer.

Dymuna'r ysgol ddiolch yn arbennig hefyd i'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am drefnu digwyddiad llwyddiannus arall, ac i bawb a ddaeth i gefnogi ar y diwrnod.

 

ARDDANGOSFA WYDDONIAETH PRIFYSGOL ABERYSTWYTH 2014

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (60 llun)

Treuliodd blynyddoedd 5 a 6 brynhawn diddorol ac addysgiadol iawn mewn Arddangosfa Wyddoniaeth a gynhaliwyd ar gampws y Brifysgol heddiw.

Cafodd y disgyblion gyfle i grwydro'r gwahanol weithdai a stondinau gan ddysgu am bob math gwahanol o wyddoniaeth diddorol ac amrywiol.

Braf oedd gweld cyn-ddisgybl yr ysgol hefyd - Tomos Fearne - yn arddangos ei Ddalek a'r K9. Campus!

Diolch yn fawr i'r Brifysgol am ein gwahodd eleni eto, ac i'r holl fyfyrwyr am eu gwaith caled yn paratoi ac am fod mor frwdfrydig gyda'r disgyblion.

 

EISTEDDFOD YR URDD CYLCH ABERYSTWYTH 2014

Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran ac a gafodd llwyddiant yn yr Eisteddfod Gylch eleni.

Pob hwyl iddynt yn yr Eisteddfod Rhanbarth.

Canlyniadau:

Unawd Llinynnol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Soffia Nicholas
Unawd Pres Blwyddyn 6 ac iau
3ydd - Gronw Downes
Unawd Piano Blwyddyn 6 ac iau
1af - Soffia Nicholas
Ensemble Offerynnol Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Cerddorfa/Band Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth


Print Monocrom Blwyddyn 5 a 6
1af - Mari Hefin
Crochenwaith Blwyddyn 5 a 6
3ydd - Seren Pugh
Creu Arteffact Blwyddyn 3 a 4 (Grwp)
3ydd - Grwp Blwyddyn 3
Tecstiliau 2D Blwyddyn 3 a 4 (Grwp)
1af - Grwp Blwyddyn 3

 

Dawns Unigol Blwyddyn 6 ac iau
2il - Lili Gwen O'Brien
3ydd - Lucy Morgan-Williams
Grwp Dawnsio Creadigol
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Grwp Dawnsio Cyfrwng Cymysg
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth



 

Unawd Blwyddyn 2 ac iau
2il - Iwan Finnigan
3ydd - Ioan Mabbutt
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 2 ac iau
1af - Iwan Finnigan
Unawd Blwyddyn 5 a 6
1af - Llyr Eurig
Deuawd Blwyddyn 6 ac iau
1af - Rhianedd a Ffion
Llefaru Ungiol Blwyddyn 2 ac iau
2il - Eleias Dafis
Llefaru Ungiol Blwyddyn 3 a 4
3ydd - Isaac Pridmore
Llefaru Unigol Blwyddyn 5 a 6
2il - Cadi Williams
Cyflwyno Alaw Werin Unigol
1af - Cadi Williams
Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 5 a 6
1af - Llyr Eurig
2il - Cadi Williams
Grŵp Llefaru Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Cerdd Dant Blwyddyn 6 ac iau
1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Côr Blwyddyn 6 ac iau

1af - Ysgol Gymraeg Aberystwyth

 

WYTHNOS FEICIO A SGWTERA 'THE BIG PEDAL 2014'

Cafwyd wythnos lwyddiannus iawn yr wythnos hon wrth i ni godi ymwybyddiaeth pwysigrwydd beicio, sgwtera, neu gerdded i'r ysgol.

Yn ystod y 'Big Pedal 2014' roedd yna bwyslais arbennig ar geisio teithio i'r ysgol heb ddefnyddio car. Gwnaeth yr ysgol gefnogi hyn wrth gwrs am fod lleihau y nifer o geir sydd y tu allan i'r ysgol yn bwysig iawn i ni er mwyn lleihau traffig, a bod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar ar yr un pryd.

Fel y gwelwch yn y lluniau, cynyddodd y nifer a fyddai'n beicio neu'n sgwtera i'r ysgol yn ddyddiol, gyda 138 o blant ar eu beiciau neu eu sgwteri dydd Gwener, a 70 yn cerdded. Roedd hyn yn golygu fod dros hanner o blant yr ysgol wedi dod i'r ysgol mewn dull gwahanol i gerbyd - ardderchog!

Y gamp nawr fydd parhau i wneud yr un ymdrech BOB wythnos, nid dim ond yn ystod yr wythnos hon yn unig.

 

DIWRNOD Y LLYFR : BLWYDDYN 4 GYDA BARDD PLANT CYMRU

Cafwyd sesiwn ddifyr iawn yng nghwmni Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru ar Ddiwrnod y Llyfr eleni.

Yn y prynhawn aeth Blwyddyn 4 am dro ar hyd Rhodfa Plascrug i Lyfrgell y Dref er mwyn cwrdd â'r bardd amryddawn. Yn ystod y sesiwn bu pawb yn cael hwyl yn rapio a chreu cerddi!

Diolch Aneirin am sesiwn ddifyr arall yn dy gwmni.

 

DIWRNOD Y LLYFR : MRS LLWYD YN CYFLWYNO EI NOFEL DDIWEDDARAF

Bûm yn ffodus iawn ar Ddiwrnod y Llyfr eleni i gael cyflwyniad gan un o'n hathrawon ni ein hunain wrth iddi gyhoeddi llyfr newydd, 'Cam wrth Gam'.

Dyma ail nofel Mrs Llwyd yng Nghyfres yr Onnen, ac un peth arbennig iawn am y nofel hon yw y bydd yn cynnwys darluniau gan un o ddisgyblion yr ysgol - Mali o flwyddyn 6! Lluniodd Mali gyfanswm o 76 llun i'w cynnwys yn y nofel - campus!

Yn ystod y cyflwyniad cawsom gyfle i wrando ar rannau o'r nofel gyda phawb ar dân i'r nofel gael ei chyhoeddi er mwyn darllen y gweddill. Gobeithia Mrs Llwyd y bydd y nofel yn cael chyhoeddi cyn ddiwedd y mis. Diolch Mrs Llwyd a phob hwyl gyda'r nofel.

 

BWS COGINIO

Yn ystod yr wythnos mae disgyblion blynyddoedd 1, 2 a 3 wedi bod yn brysur iawn yn coginio wrth i Fws Coginio ymweld ag ardal Aberystwyth.

Yn ystod eu hymweliadau bu'r disgyblion yn brysur iawn yn paratoi gwahanol fwydydd gan ddygu sgiliau coginio hanfodol megis dysgu sut i dorri llysiau yn gywir ac yn ddiogel gyda chyllell.

Coginiwyd pitsas blasus iawn gan ddisgyblion blwyddyn 2 heddiw, a dyma lun o ddosbarth 2NJ ar fin gadael y bws wedi bore prysur o waith!

(Mae Blwyddyn 3 wedi llwytho eu lluniau i flickr - ewch i'w gweld yma)

 

ERIN YN DRYDYDD YNG NGHYSTADLEUAETH COGURDD

Llongyfarchiadau mawr i Erin o flwyddyn 5 ar ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth rhanbarthol 'Cogurdd' a gynhaliwyd yn Ysgol Bro Pedr yn ddiweddar.

Mi gofiwch i Erin ennill cystadleuaeth Cogurdd yr ysgol (gweler Newyddion Chwefror) gan fynd ymlaen i gystadlu yn erbyn goreuon eraill ysgolion Ceredigion.

Bu raid i Erin goginio 3 rysait gwahanol o fewn amser arbennig, a gwnaeth hi blesio'r beirniaid yn fawr mae'n rhaid!

Diolch yn arbennig i Pav sy'n gogydd ym mwyty Gwesty Cymru am gynorthwyo Erin wrth iddi baratoi at y gystadleuaeth.

 

 

« Newyddion Chwefror