Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 17/Ion
Dydd Llun 20/01/25
Dydd Mawrth 21/01/25
- Cerddorfa ysgol 8:45yb
Dydd Mercher 22/01/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Clwb yr Urdd i fl.1,3a5
3:30 - 4:30yp - Ymweliad gan Bennaeth Ysgol Gymraeg y Gaiman, Patagonia
Dydd Iau 23/01/25
- Nofio i fl.4a6
- Ymarfer rygbi i fl.5a6
3:30 - 4:30yp
Dydd Gwener 24/01/25
- Bydd Blwyddyn 6 yn ymuno yn nathliadau Agoriad Swyddogol maes 2G y Ganolfan Hamdden yn ystod y prynhawn
- 3:30 - 5:00 - Disgo Dwynwen y G.Rh.A yn Neuadd yr Ysgol. Mynediad yn £2 - gweler y poster yn Llythyr y Pennaeth
Dydd Sadwrn 25/01/25
- Dydd Santes Dwynwen - ymunwch â ni yn y Parêd - cwrdd wrth Gloc y Dref am 1:45yp
LAWRLWYTHIADAU
Newyddion
Gorffennaf 2014 |
|
RHANNU NEGESEUON GYDA CHYNHADLEDD NATO |
|
Ym mis Medi bydd NATO yn dod i Gymru lle bydd y 28 aelod yn mynychu'r uwchgynhadledd. Mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru aeth disgyblion Blwyddyn 5 ati i lunio negeseuon i'w cyflwyno i bobl megis Arlywydd America, Prif Weinidog Prydain ac Arlywydd Ffrainc - negeseuon am eu gobeithion hwy i'r dyfodol pan fyddant hwythau wedi tyfu'n oedolion eu hunain. Tynnodd y plant luniau hefyd i fynd gyda'u negeseuon. Bydd y prosiect yn parhau ym mis Medi. |
|
GWIBDEITHIAU'R MEITHRIN I 'PLAY PLANET' A PHWLL PELI PLASCRUG |
|
Ar ddydd Mercher aeth plant trwy’r dydd a’r bore i Blaned Chwarae yn Llandre. Cafodd pawb hwyl a sbri ar y llithren, yn chwarae gyda’r teganau a’r peli. Yna i ddilyn roedd bisgedi a sudd ar gael i bawb gael ymlacio!
Aeth plant y prynhawn ar wibdaith i’r pwll peli yng Nghanolfan Hamdden Plascrug ar brynhawn dydd Mawrth. Cafodd pawb hwyl a sbri yn chwarae gyda’r peli ac yn mynd ar y llithren. |
|
GWIBDAITH BLWYDDYN 1 I QUACKERS |
|
Dyma ni plant blwyddyn 1 yn mwynhau ar y llithren yn ‘Quackers’! Bu sawl un digon dewr i fentro lawr y ‘drop slide’ ac eraill wrth eu bodd yn rhedeg, cuddio a dringo. |
|
CYNLLUN BUSNES IOGWRT IÂ-CHUS BLWYDDYN 3! |
|
Yn ddiweddar mae blwyddyn 3 wedi bod yn brysur yn gweithredu eu cynllun o werthu iogwrt wedi’i rewi. Mae hyn wedi golygu llawer o waith ac rydym yn ddiolchgar iawn fod sawl cwmni a sawl rhiant wedi helpu, fel Rachel’s Dairy, Morgan's y cigydd, Morrisons ac mae ein diolch yn fawr iawn i Ultracomida am helpu gyda’r cynllun busnes ac am brynu crysau-t i roi logo Ella Jane Rees arno i hysbysebu’r fusnes. Diolch hefyd i Ffigar am greu’r crysau i ni. |
|
CNEIFIO YM MLWYDDYN 3! |
|
Daeth Llyr ap Hywel, tad Dafydd Llyr i flwyddyn 3 heddiw i ddangos i’r disgyblion sut mae cneifio oen. Cafodd pawb eu syfrdanu pa mor gyflym roedd yn medru cneifio oen - llai na munud! Diolch yn fawr iddo am y profiad arbennig hwn. |
|
GWIBDAITH BLWYDDYN 3 I DREFACH FELINDRE A TEIFI MANIA |
|
Cafodd Blwyddyn 3 ddiwrnod i’w gofio lawr yn Nrefach Felindre yn yr Amgueddfa Wlân ac yna’n Aberteifi yn Teifi Mania. Cafodd y plant gyfle i wneud darn o waith ffelt. Cawsom ein tywys o gwmpas yr hen beiriannau a’r dillad amrywiol o’r degawdau a fu. Roedd yn ddiwrnod blinedig ond llawn hwyl. |
|
GWIBDAITH Y DOSBARTHIADAU DERBYN I BLANED CHWARAE A THRAETH YNYS LAS |
|
Ar ddydd Mawrth y 15fed o Orffennaf, aeth y dosbarth Derbyn ar eu trip ysgol i’r ‘Planed Chwarae’ yn Llandre ac ymlaen i fwynhau ar y traeth yn Ynys Las. Roedd pawb yn gyffrous iawn wrth deithio ar y bws! Wedi cyrraedd cafodd pawb lawer o hwyl a sbri yn llithro, chwarae a dringo. Mwynhaodd pawb eu picnic blasus ac yna yn ystod y prynhawn cafodd bawb hufen ia enfawr ar y traeth yn Ynys las cyn dychwelyd i’r Ysgol. |
|
DERBYN GWOBRAU CELF GAN BLASDY NANTEOS |
|
Heddiw daeth Nigel o Blasdy Nanteos i'r ysgol er mwyn cyflwyno gwobrau Celf i ddisgyblion yr ysgol. Yn gynharach yn y flwyddyn cynhaliwyd cystadleuaeth gan Nanteos i ddisgyblion ysgol greu llun o'r Plasdy ac yn ffodus iawn i ni daeth pob un o'r gwobrau i'r Ysgol Gymraeg! Yn fuddugol i flwyddyn 6 oedd Ronan, gyda Betsan yn ail ac Elin yn drydydd. Yn fuddugol i flwyddyn 5 oedd Carys, gyda Molly yn ail a Gruffydd yn drydydd. Llongyfarchiadau iddynt i gyd a diolch i Mr Griffiths am arwain y sesiynau Celf gyda'r plant. |
|
GWIBDAITH BLWYDDYN 4 I YNYS HIR A MACHYNLLETH |
|
Ar ddydd Gwener, yr unfed ar ddeg o Orffennaf aeth blwyddyn 4 ar wibdaith i Ynys Hir. Gwarchodfa natur yw Ynys Hir sy’n gofalu am anifeiliaid, planhigion a chreaduriaid bach. Yn ystod y dydd cawsom gyfle i ddarganfod creaduriaid yn y goedwig ac efo rhwydi chwilio am greaduriaid yn y pwll dŵr. Roedd pawb wedi mwynhau’r gweithgareddau yn fawr iawn. Ar ôl ychydig o fwyd aethom i Fachynlleth i gael sesiwn hwyl yn y pwll nofio. |
|
LLWYDDIANT YN PARHAU I STEFFAN MEWN FFOTOGRAFFIAETH |
|
Llongyfarchiadau i Steffan o flwyddyn 3 ar ei lwyddiant diweddaraf mewn ffotograffiaeth wedi iddo gyflwyno llun ar y teitl 'Reflections on flooding' i gystadleuaeth yn ddiweddar. Enillodd Steffan y drydedd wobr mewn gwyl ffotograffiaeth a drefnwyd gan Ganolfan y Celfyddydau. Llun o'r llifogydd yng Nghoedlan Plascrug ydyw, ac on'dyw e'n ffotograff da? Da iawn ti Steffan!
|
|
« Newyddion Mehefin | |