Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar gau yr wythnos hon
► Calendr
-----------------------
► Neges gan yr
Awdurdod Addysg
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Ion
Dydd Llun 25/01/21
- Dydd Santes Dwynwen hapus i bawb!
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Cofiwch fod sesiynau byw dyddiol ar Teams ar gyfer pob dosbarth - amserlen yn Llythyr y Pennaeth
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
Dydd Mawrth 26/01/21
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
Dydd Mercher 27/01/21
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
Dydd Iau 28/01/21
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
Dydd Gwener 29/01/21
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
LAWRLWYTHIADAU
Archif
Newyddion Ebrill 2013 |
|
PENCAMPWYR TWRNAMENT PÊL-DROED Y CYLCH |
|
![]() |
Llongyfarchiadau i dim pêl-droed yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl droed ysgolion Cylch Aberystwyth. Cynhaliwyd y twrnament ar gaeau Blaendolau gyda'r bechgyn yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau gan gynnwys gêm derfynol agos iawn. Roedd y gêm mor agos fel y bu'n rhaid penderfynu trwy giciau o'r smotyn. Da iawn chi, fechgyn. |
PENCAMPWYR TWRNAMENT PÊL-RWYD Y CYLCH |
|
Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol ar eu llwyddiant diweddar yn nhwrnament Pêl rwyd ysgolion Cylch Aberystwyth. Cynhaliwyd y twrnament ar gyrtiau'r Ganolfan Hamdden gyda'r plant yn llwyddo i ennill pob un o'i gêmau yn ystod y prynhawn. Da iawn chi, blant. |
|
MATHEMATEGWYR BUDDUGOL 'GÊM 24' |
|
Llongyfarchiadau gwresog i bedwar disgybl o flwyddyn 6 ar eu camp anhygoel o ennill cystadleuaeth 'Gêm 24' ysgolion Cylch Aberystwyth eleni. Llwyddodd Dylan, Eleanor, Lisa a Peredur i gipio'r wobr yn dilyn wythnosau o ymarfer chwarae'r gêm yn yr ysgol. Pob hwyl i'r pedwar yn y rownd sirol a gynhelir yn Felinfach hanner tymor nesaf. |
|
TWRNAMENT PÊL DROED YR URDD I FECHGYN A MERCHED |
|
Llongyfarchiadau i dimau pêl droed bechgyn a merched yr ysgol ar gystadlu mor dda yn nhwrnament yr Urdd yn ddiweddar. Cynhaliwyd y gêmau ar gaeau Blaendolau, gyda'r timau'n cystadlu'n frwd yn erbyn ysgolion eraill sir Ceredigion. Diolch i'r noddwyr Emo Oil a Brodwaith FFIGAR am noddi'r citiau hynod smart. Da iawn chi blant am ymarfer yn gyson ac am gynrychioli'r ysgol mor dda. |
|
SIOE 'WCW A SWYN YR ARDD' |
|
Cafodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen lawer o hwyl a sbri yng Nghanolfan y Morlan wrth fwynhau sioe arbennig iawn 'Wcw a Swyn yr Ardd'. Yn y llun gwelwch rai o gymeriadau'r sioe gyda disgyblion yr ysgol. Bu'r plant yn ymuno yn yr hwyl wrth fesur, cyfri, bloeddio cyfarwyddiadau ac helpu Wcw trwy ganu hefyd. Diolch i Gylchgrawn Wcw a'i ffrindiau am drefnu! |
|
EISTEDDFOD RHANBARTH CEREDIGION 2013 |
|
Unawd Chwythbrennau Blwyddyn 6 ac iau |
Llongyfarchiadau i bawb a gymrodd ran ac a gafodd llwyddiant yn yr Eisteddfod Rhanbarth eleni. Pob hwyl iddynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro. |
« Newyddion Mawrth 2012 / Newyddion Mai 2012 » | |