Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Brecwast ar gau yr wythnos hon
► Calendr
-----------------------
► Neges gan yr
Awdurdod Addysg
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Ion
Dydd Llun 25/01/21
- Dydd Santes Dwynwen hapus i bawb!
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Cofiwch fod sesiynau byw dyddiol ar Teams ar gyfer pob dosbarth - amserlen yn Llythyr y Pennaeth
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
Dydd Mawrth 26/01/21
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
Dydd Mercher 27/01/21
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
Dydd Iau 28/01/21
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
Dydd Gwener 29/01/21
- Gweithgareddau dysgu o bell wedi eu trefnu ar gyfer y cartrefi
- Mae adeilad yr ysgol ar agor ar gyfer plant gweithwyr allweddol y rheng flaen yn unig
LAWRLWYTHIADAU
Gair o groeso gan y Pennaeth
Croeso i chwi i dudalennau gwefan Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Saith o blant oedd yn yr ysgol yn y dyddiau cynnar ond bellach mae’r ysgol wedi tyfu i dros bedwar cant o ddisgyblion. Daw’r disgyblion atom o dref Aberystwyth ac o’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau wrth i mwy a mwy o rieni weld gwerth mewn addysg Gymraeg. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-Gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.
Mae’r Llywodraethwyr mewn cydweithrediad ag Awdurdod Addysg Ceredigion wedi cydweithio’n glòs i sicrhau adeilad addas ac adnoddau pwrpasol er mwyn diwallu’r cynnydd yn niferoedd y disgyblion. Mae yna 18 o athrawon a dros 20ain o gynorthwywyr yn gweithio yn yr ysgol ynghyd â 15 o staff ategol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus.
Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.
Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig – “fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu”. Darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth, ac er mwyn cael rhyw flas o fwrlwm yr ysgol brysur hon.
Mr Clive Williams