Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Ionawr 2012

GALA NOFIO CENEDLAETHOL YR URDD YNG NGHAERDYDD

» Disgyblion yr ysgol yn sefyll yn ymyl pwll nofio cenedlaethol Caerdydd ar gyfer gala derfynol yr Urdd.

 

Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion a deithiodd i lawr i Gaerdydd dros benwythnos olaf Ionawr ar gyfer cystadeluaeth gala nofio cenedlaethol yr Urdd, a hynny'n dilyn eu llwyddiant yng ngala Ceredigion. Diolch hefyd i'r rhieni am eu cefnogaeth parod, ac i'r Urdd am drefnu digwyddiad arall penigamp!

 

PENBLWYDD YR URDD YN 90 OED!

» Eleni mae'r Urdd yn dathlu 90 mlynedd ers i'r mudiad gael ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards - yr un gŵr a sefydlodd ein hysgol ni. Cafwyd parti mawr gyda phlant yr ysgol wedi'u gwisgo mewn coch, gwyn a gwyrdd, a dros 500 o gacennau bach crwn yn creu bathodyn enfawr yn y neuadd. Croesawyd Wedi 3 i'r ysgol i ffilmio'r plant yn canu Pen-blwydd hapus i'r Urdd, yn ogystal â chân Hei! Mistar Urdd. Edrychwn ymlaen yn fawr at y parti mawr nesaf ymhen deng mlynedd...

 

CYSTADLEUAETH GYMNASTEG YR URDD

» Llongyfarchiadau mawr i'r merched am gystadlu mor arbennig o dda yng nhystadleuaeth gymnasteg yr Urdd. Cystadlodd y bedair mewn cystadlaethau i barau, gydag Elinor a Carys yn llwyddo i gipio'r ail wobr mewn cystadleuaeth uchel iawn ei safon.
Da iawn chi!

 

BARDD PLANT CYMRU YN YMWELD Â'R YSGOL

» Eurig Salisbury, Bardd Plant Cymru 2011-2013 yn cynnal gweithdy gyda disgyblion Blwyddyn 6

 

Fel rhan o gynllun adfer y Prom yn Aberystwyth, daeth Eurig atom er mwyn gweithio gyda chriw o flwyddyn 6 er mwyn cael ysbrydoliaeth (ac ychydig o gymorth!) wrth ysgrifennu darnau o farddoniaeth i'w cyflwyno maes o law i gynllunwyr y Prom.

 

DATHLIADAU DIWRNOD SANTES DWYNWEN

 

» Cylch lluniau disgyblion yr ysgol yn mwynhau dysgu am Santes Dwynwen trwy wahanol weithgareddau

 

 

 

CARDIAU SANTES DWYNWEN AR WERTH!

» Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn brysur iawn yn cynllunio cardiau cyfarch ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen (Ionawr 25ain). Mae'r cardiau ar werth yn yr ysgol ac ar y stondin wrth y brif fynedfa yn foreol. Pris pob carden yw 50c - bargen yn wir!

 

CYSTADLEUAETH PÊL-RWYD YR URDD

» Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol ar gystadlu yn arbennig o dda yng nghystadleuaeth Pêl-rwyd yr Urdd ar gyfer cylch Aberystwyth.

 

EMO OIL YN PRYNU CIT NEWYDD SBON I'R TÎM HOCI

» Mr Williams, Mr Jones ac un o dimau hoci yr ysgol yn derbyn cit newydd sbon gan Mr Martin Atkinson, Cynrychiolydd o Gwmni Emo Oil yn Aberystwyth.

 

Mae'r ysgol yn ddiolchgar iawn i Emo Oil am ei haelioni, ac mae'r disgyblion i gyd yn edrych ymlaen yn eiddgar i'w gêm nesaf er mwyn gwisgo'r cit newydd sbon!

 

 

« Newyddion Rhagfyr 2011 / Newyddion Chwefror 2012 »