Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 19/Ebr

 

Dydd Llun 15/04/24

  • Dim neges

Dydd Mawrth 16/04/24

  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas os yw'r tywydd yn caniatau

 

Dydd Mercher 17/04/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Ymarfer Cân Actol
    3:30-4:45yp
  • Clwb yr Urdd i fl.2,4a6
    3:30-4:30yp

 

Dydd Iau 18/04/24

  • Nofio i fl.5 a 3
  • Ymarfer pêl-droed i fl.5a6 3:30-4:30yp (sesiwn olaf am y tro)

 

Dydd Gwener 19/04/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Blwyddyn 2 mewn Gweithdy Celf yng Nghanolfan y Celfyddydau

 

LAWRLWYTHIADAU

Archif

Newyddion Chwefror 2012

CYSTADLEUAETH CELF A CHREFFT RHANBARTH CEREDIGION

» Y disgyblion a ddaeth i'r brig yng nghystadlaethau Celf a Chrefft Ceredigion

 

Llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd i ddod i'r brig yng nghystadlaethau Celf a Chrefft yr Urdd eleni. Yn dilyn eu llwyddiant yn y gystadleuaeth rhanbarthol mae gwaith Nicole a Mali 4J, Brooklyn o 5G a gwaith Cywaith 3M yn mynd ymlaen i'r genedlaethol, gyda'r rhai a ddaeth yn ail a thrydydd yn ennill clod mawr am eu gwaith campus. Da iawn chi blant am roi o'ch gorau i gystadlu.

Gwaith Creadigol 2D - Grwp
1af - Mali a Nicole 4J
Cyfres so Brintiau Lliw
1af - Elinor 6J
Arteffact Gwaith Grwp
1af - Blwyddyn 3

Print Monocrom
2il - Brooklyn 5G
Print Lliw
2il - Elinor 6J
Gwaith Creadigol 3D
2il - Seren 6J
Gwaith Grwp 2D
2il - Blwyddyn 3

Cyfres o Brintiau Lliw
3ydd - Brooklyn 5G
Print Monocrom
3ydd - Elinor 6J

 

CYSTADLEUAETH RYGBI YR URDD

» Aelodau tîm rygbi'r ysgol

 

Llongyfarchiadau i dîm rygbi'r ysgol am gystadlu yng nghystadleuaeth rygbi'r Urdd, Rhanbarth Ceredigion eleni. Wrth gystadlu yn erbyn ysgolion eraill Ceredigion ar gaeau Clwb Rygbi Aberaeron, enillodd y tîm dair o'u gemau, a cholli dwy.
Da iawn chi, fechgyn.

 

EISTEDDFOD YSGOL 2012

» Enillwyr y Prif Wobrau gyda'u tlysau

Cafwyd diwrnod eisteddfod penigamp eleni eto gyda phob un disgybl yn cymryd rhan yn y cystadlaethau amrywiol. Ymhlith cystadlaethau'r diwrnod oedd y Côr Mawr, partïon canu a llefaru, unawdau offerynnol, unawdau canu a llefaru yn ogystal â chlywed canlyniadau'r holl gystadlaethau ysgrifenedig a chelf. Da iawn i bawb a gymrodd ran, a llongyfarchiadau mawr i bawb a brofodd llwyddiant.

I weld y casgliad llawn o 134 llun a
5 fideo cliciwch yma

 
ARTHUR : 644 CARADOG : 618 DEWI : 579
 

BEIRNIADU GWAITH CELF

» Rhai o ddisgyblion yr ysgol yn arddangos eu gwaith gyda Mr Chris Iliff

 

Braf oedd croesawu Mr Chris Iliff i'r ysgol i feirniadu gwaith Celf y disgyblion ar gyfer Eisteddfod yr Ysgol eleni.
Mae Chris Iliff yn gweithio yn yr Adran Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chafodd dipyn o fwynhad wrth grwydro'r dosbarthiadau yn beirniadu'r gweithiau celf, a thipyn o ben tost wrth benderfynu ar enillwyr! Diolchwn iddo am ei waith.
(Bydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod yr eisteddfod)

 

CWMNI DAWNS CYMRU

» Camille a Neus, cynrychiolwyr o Gwmni Dawns Cymru gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 6

 

Mwynhaodd ddisgyblion blwyddyn 6 brynhawn cyfan o ddawnsio yng nghwmni dawnswyr proffesiynol wrth i'r Cwmni Dawns Cenedlaethol ymweld â'r ysgol. Dan arweiniad medrus Camille a Neus llwyddodd bawb i greu dawns greadigol hyfryd i gerddoriaeth gyfoes. Da iawn bawb!

 

GWEN YN ENNILL CYSTADLEUAETH YSGRIFENNU LLYTHYR CIP!

» Gwen yn dal rhifyn mis Chwefror o'r Cylchgrawn CIP

 

Llongyfarchiadau mawr i Gwen o flwyddyn 3 am ennill cystadleuaeth Ysgrifennu Llythyr Cip 2011. Mae Gwen yn un o chwech o enillwyr i gyd, gan ennill gwobr o £40 iddi hi ei hun, a gwobr o £100 i'r ysgol! Waw!

 

Hoffwn longyfarch Ioan o flwyddyn 4 hefyd am lwyddo i ddod yn agos iawn i'r brig.

 

Y CYNGOR YSGOL YN CYFARFOD Â'R HEDDLU I DRAFOD PROBLEMAU TRAFFIG

» Aelodau o'r Cyngor Ysgol a Mr Williams yn trafod gyda PC Chris Tipper

 

"Gwnaethom wahodd PC Chris Tipper i'r ysgol i drafod y problemau traffig gyda ni. Pob dydd mae cannoedd o geir yn llenwi'r ffordd ger yr ysgol, gan wneud yr ardal yn ofnadwy o brysur ac yn beryglus hefyd gan fod rhai yn gor-yrru. Rhannom ein pryderon gydag ef gan ddod i benderfyniad y byddem yn benthyg offer camera o'r orsaf heddlu er mwyn cofnodi cyflymder y cerbydau. Byddwn hefyd yn llythyru'r Cyngor er mwyn cael caniatad i barcio am ddim ar draws y bont gerdded ar amserau arbennig."
Siwan, Ysgrifenyddes y Cyngor Ysgol

« Newyddion Ionawr 2012 / Newyddion Mawrth 2012 »