Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 12/Ebr

 

Dydd Llun 15/04/24

  • Dim neges

Dydd Mawrth 16/04/24

  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas os yw'r tywydd yn caniatau

 

Dydd Mercher 17/04/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan
  • Ymarfer Cân Actol
    3:30-4:45yp
  • Clwb yr Urdd i fl.2,4a6
    3:30-4:30yp

 

Dydd Iau 18/04/24

  • Nofio i fl.5 a 3
  • Ymarfer pêl-droed i fl.5a6 3:30-4:30yp am y bythefnos nesaf

 

Dydd Gwener 19/04/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb

 

LAWRLWYTHIADAU

Newyddion

Rhagfyr 2013

ANFON A DERBYN CARDIAU NADOLIG O EWROP

Yr wythnos hon bydd chwech o gardiau Nadolig arbennig iawn yn cael eu hanfon o’r Ysgol Gymraeg at ein hysgolion partner ym mhob cwr o Ewrop. Fel rhan o waith ein prosiect Comenius ‘The Good Life’, byddwn yn anfon cerdyn at yr ysgolion yn y Ffindir, Denmarc, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal ac Ysgol Llwyn yr Eos yma yng Nghymru. Mae’r cardiau’n cynnwys dyluniadau gan un disgybl o bob blwyddyn trwy’r ysgol o blith y cannoedd o gardiau a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Cynllun Cardiau Nadolig Blwyddyn 6. Cyffrous iawn hefyd yw derbyn y cardiau hyfryd sydd wedi dechrau cyrraedd oddi wrth ein ffrindiau o Ewrop.  

 

YMWELIAD GAN ALICE EVANS

Dydd Llun fe ddaeth Alice Evans, cyn ddisgybl yr ysgol i siarad gyda Blwyddyn 3 a 4 am ei phrofiad o chwarae pêl-droed i dîm menywod Cymru.

Mae Alice wedi ennill sawl cap i Gymru yn chwarae fel gôl geidwad.

Da iawn hi a phob lwc blwyddyn nesaf wrth i Gymru frwydro i geisio cyrraedd Cwpan y Byd.

 

SOFFIA YN AELOD WRTH GEFN CERDDORFA PRYDAIN

Llongyfarchiadau mawr i un o ddisgyblion Blwyddyn 5 yr ysgol ar ennill ei lle yng Ngherddorfa Prydain Fawr.

Bu raid i Soffia, sydd wedi chwarae'r ffidil er pan oedd hi'n saith oed, fynd i glyweliad yng Nghanolfan y Celfyddydau gan chaware dau ddarn o flaen panel o bobl.

Roedd Soffia wrth ei bodd yn ddiweddar pan dderbyniodd lythyr yn datgan ei bod yn aelod wrth gefn, a'i bod yn gallu mynd i Weston-Super-Mare bob mis er mwyn ymarfer gyda'r gerddorfa.

Yn y llun gwelir Soffia gyda'i hathrawes Mrs McGuinness. Llongyfarchiadau mawr i'r ddwy.

 

CYNGERDD NADOLIG YR YSGOL

Cliciwch yma i weld y casgliad llawn (142 llun)

Braf oedd gweld y Neuadd Fawr yn orlawn ar gyfer cyngerdd Nadolig yr ysgol. Bu’r Cyfnod Sylfaen yn sôn am greu y ‘Crud newydd i’r Baban Iesu’ gyda phawb yn canu ac yn llefaru yn wych, roedd pawb yn smart iawn yn eu gwisgoedd lliwgar.

Bu Cyfnod Allweddol 2 yn sôn am hanes criw o angylion a ddaeth lawr i’r Ddaear i helpu gyda stori’r geni, cawsant help gan griw fferm factor, y digartref, dawnswyr ‘strictly’ a’r plismyn pwysig wrth gwrs. Llwyddwyd i osgoi Herod a’i fownsars cas!

Cafwyd ymateb arbennig gan bawb.

 

LLWYDDIANT MEWN GYMNASTEG

Llongyfarchiadau i griw o ferched yr ysgol ar eu llwyddiant yng nghystadleuaeth gymnasteg yr Urdd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth rhanbarthol yng Nghanolfan Hamdden Plascrug, gyda'r merched yn cystadlu'n unigol, mewn parau, triawdau ac fel tîm.

Canlyniadau:
1af : Tîm ysgolion â dros 100 o blant
1af : Parau (Sofie a Lili-Gwen)
1af : Triawd (Nicole, Lucie ac Erin)
3ydd : Parau (Lisa a Niamh)

 

IESTYN YN CWRDD AG ARWR RYGBI AWSTRALIA

Dros y penwythnos mi chwaraeodd Cymru ei gêm olaf yng nghyfres gêmau rygbi'r Hydref yn erbyn Awstralia.

Colli fu hanes Cymru ond roedd un Cymro bach yn gwenu ar ddiwedd y gêm wrth i un o gewri tîm Awstralia, y mewnwr Will Genia, benderfynu cerdded draw am sgwrs a rhoi yr esgidiau arbennig y bu'n eu gwisgo yn ystod y gyfres i Iestyn Llŷr!

Gobeithiwn y bydd dy draed yn tyfu'n glou er mwyn i ti gael eu gwisgo nhw cyn hir, Iestyn!

 

« Newyddion Tachwedd