Negeseuon
yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 12/Meh
Dydd Llun 15/06/26
Dydd Mawrth 16/06/26
- Dim neges
Dydd Mercher 17/06/26
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
- Clwb Darllen amser cinio
- Criced Cylch Aberystwyth i fl.5a6
Dydd Iau 18/06/26
- Nofio i flwyddyn 3 (prynhawn)
- Rownd derfynol Gornest Lyfrau bl.5a6
- Cyfarfod Cyhoeddus Eisteddfod yr Urdd 2029 yn Ysgol Gyfun Aberaeron 6:30yh
Dydd Gwener 19/06/26
- Sioe ‘Dosbarth Miss Prydderch’ gan Arad Goch i fl.3-6
- DYDD SADWRN - GŴYL CHWARAEON YR URDD ym Mlaendolau
Rasys trawsgwlad ar gael i bawb o fl.3-6 - cofrestrwch yma cyn 17/06 (£5)
COFRESRTRWCH YMA
2:30 - 4:00yp
LAWRLWYTHIADAU
Beicio o Aber i Lundain
Awst 2012 |
||
ER COF AM ANGHARAD MAIR WILLIAMS |
||
![]() |
AngharadAr ddiwedd mis Tachwedd 2011, bu farw Angharad yn 14 mlwydd oed. Roedd hi'n gyfnod trist iawn i staff a disgyblion yr ysgol wrth gofio am gyn-ddisgybl hoffus a llawn bywyd er gwaethaf ei chyflwr meddygol a'r anawsterau a'i hwynebodd yn ddyddiol. Brwydrodd Angharad yn ddewr iawn gyda'i chyflwr EB drwy gydol ei bywyd, gan deithio i Ysbyty Great Ormond Street er mwyn derbyn triniaeth yn bythefnosol yn ystod ei blwyddyn olaf. Y daithEr mwyn diolch i'r ysbyty hwnnw ac mewn dathliad o fywyd Angharad rydym fel staff a chyfeillion Yr Ysgol Gymraeg wedi penderfynu beicio o'r Ysgol Gymraeg i Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain yn ystod gwyliau'r haf eleni. Taith sydd yn 220 milltir o hyd. Bwriad y daith yw i gyflwyno siec i'r ysbyty o'r arian a godir trwy weithgareddau a drefnir gan ddisgyblion yr ysgol yn ystod tymor yr haf, a'r arian a godir trwy nawdd ar gyfer y daith feics ei hun. NoddiOs hoffech chi noddi'r achos teilwng hwn gallwch naill ai fynd i ystafell Mr Clive Williams y Pennaeth neu at Ffion yr Ysgrifenyddes i lenwi ffurflen noddi, neu gliciwch yma i gyfrannu ar dudalen JustGiving. Os ydych yn fusnes ac hoffech noddi drwy osod eich logo ar ein crysau beicio, cysylltwch â Mr Gareth James y Dirprwy drwy e-bostio gareth.james@ysgolgymraeg.ceredigion.sch.uk |
|
Oeddech chi'n gwybod?Ganwyd Angharad ar yr16eg o Orffennaf 1997 Hoff liw Angharad oedd pinc! Roedd Angharad wrth ei bodd yn tynnu coes a chwarae jôcs ar bobl! Roedd hi wrth ei bodd yn darllen, ac yn casau Mathemateg! |
||
|
||
| i ddarllen adroddiad y Diwrnod Pinc ewch i Newyddion Mehefin | ||
| i ddarllen adroddiad Diwrnod Angharad ewch i Newyddion Gorffennaf | ||
