Negeseuon 
  yr Wythnos
Mae'r Clwb Cynnar ar agor yn ddyddiol o 08:15
  
► Calendr
-----------------------
► Llythyr diweddaraf y Pennaeth 24/Hydref
Dydd Llun 03/11/25
Dydd Mawrth 04/11/25
- Dim neges
 
Dydd Mercher 05/11/25
- Gwasanaeth Ysgol Gyfan
 - Clwb Darllen Amser Cinio
 - Clwb yr Urdd i fl. 1,3a4  3:30 – 4:30yp
 
Dydd Iau 06/11/25
- Nofio i flwyddyn 3
 - Grŵp Recorders 12:30yp
 - Tîmau hoci ar y 2G
4-5pm (gweld amserlen y tymor) 
Dydd Gwener 07/11/25
- YFORY - Dydd Sadwrn -
Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a'r Fro (gweler y Llythyr y Pennaeth diwethaf am amseroedd) - Aberystwyth a'r Fro 2025 | Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
 
LAWRLWYTHIADAU
 Y Cyngor Ysgol a Phwyllgorau Plant
Croeso i wybodaeth a digwyddiadau 2022-2023
CYNGOR YSGOL : PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?
Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod pob mis gyda Mr James lle fyddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella'r ysgol ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.
![]()  | 
    ||||||
Llew Cynrychiolydd Bl.6  | 
    Gwerfyl Cynrychiolydd Bl.6  | 
    Iori Cynrychiolydd Bl.6  | 
    Martha Cynrychiolydd Bl.6  | 
  |||
Hans Cynrychiolydd Bl.5  | 
    Gwenan Cynrychiolydd Bl.5  | 
    Osian Cynrychiolydd Bl.4  | 
    Leusa Cynrychiolydd Bl.4  | 
  |||
Jac Cynrychiolydd Bl.3  | 
    Beca Cynrychiolydd Bl.3  | 
    |||||
Medi 2022 | 
      Cofnodion y Cyfarfod Cychwynnol | 
      ||
Cafwyd cyfarfod cychwynnol o’r Cyngor Ysgol i drafod pa bwyllgorau plant fydd yr aelodau yn mynychu eu cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn. Penderfynwyd rhannu yr aelodau fel hyn:  | 
      |||
Iori Gwenan Martha Llew Hans Gwerfyl Osian a Leusa Jac a Beca  | 
      Pwyllgor E-ddiogelwch (dan ofal Mr Wyn) Pwyllgor Eco (dan ofal Mrs B Davies) Pwyllgor Taclo’r Toiledau (dan ofal Mrs Hughes) Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae (dan ofal Mr Jones) Pwyllgor Llesiant (dan ofal Mr Griffiths) Y Siarter Iaith (dan ofal Mrs S Davies) Pwyllgor Gwrth fwlio (dan ofal Mrs Ellis) Pwyllgor Dyngarol (dan ofal Mrs Wigley)  | 
      ||
Tasg gyntaf y Cyngor Ysgol fydd mynychu’r cyfarfodydd hyn a’u cynorthwyo i fwydo i mewn i’r cynllun ar gyfer y tymor. 
 Cafwyd sgwrs ynglŷn â gwerthu gwisg ysgol ail-law wrth y giât yn y boreau. Edrychwyd yn y bocsys dillad coll a gweld bod llawer wedi cael eu cyfrannu i'r ysgol a dillad heb enwau arnynt. Penderfynwyd y byddwn yn ceisio agor stondin un bore yr wythnos. Yr enw a benderfynwyd arno oedd 'Y Lein Ddillad'.  | 
      |||
Hydref 2022 | 
      Cofnodion y Cyfarfod | 
      ||
Croesawyd pawb i’r  cyfarfod a chytunwyd y dylwn ethol swyddogion ar gyfer y pwyllgor. 
 
 Mae'r stondin 'Y Lein Ddillad' yn llwyddiannus iawn! Mae nifer helaeth o rieni wedi bod yn prynu gwisg ail-law yn y boreau, ac ers agor y stondin rydym wedi derbyn llythyr gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn annog ysgolion i wneud hyn - sef ceisio lleihau costau ar gyfer teuluoedd. Rydym wedi casglu £51 yn barod. Byddwn yn trafod yn nes at y Nadolig beth i'w wneud gyda'r arian yr ydym yn ei godi. 
  | 
      |||
 Criw 'Y Lein Ddillad' un bore o Hydref :-)  | 
      |||
 
  | 
    |||
Hydref 2022 | 
      Cofnodion y Cyfarfod | 
      ||
Cafwyd cyfarfod yn ystafell Mr James amser cinio am gymeriadau y 4 diben. Ar ôl gwaith arbennig gan blant blwyddyn 2 a 6 yn creu 4 cymeriad yr un, fe yrron nhw'r syniadau i gyd at gwmni proffesiynol a wnaeth eu troi i mewn i 4 cymeriad anhygoel! Ar ôl i'r cyngor ysgol drafod am dipyn, fe benderfynon ni wneud cwpwl o newidiadau i'r cymeriadau. Fe benderfynon bod angen i'r cymeriadau wisgo siwmperi yr ysgol i gysylltu nhw gyda'r ysgol, a'u bod yn perthyn i'w gilydd. Hefyd newidwyd lliwiau rhai o ddarnau y cymeriadau. Ychwanegon ni hefyd Y.G.A i bêl rygbi i ddangos ochr chwaraeon yr ysgol. Gobeithiwn mewn ychydig o ddiwrnodau y bydd y cymeriadau yn ôl wedi eu gwella ac yn anhygoel o wych :-) (cofnodion gan Gwerfyl a Martha)  | 
      |||
 
  | 
      |||
Tachwedd 2022 | 
      Cofnodion digwyddiad | 
      ||
Un bore roedd yn rhaid i ni gyrraedd yr ysgol yn gynnar am 8:15 y bore er mwyn cwrdd gyda gweddill y Cyngor Ysgol, hefyd Cyngor Ysgol Plascrug a'r ddau Bennaeth sef Mr Williams a Mr Lewis. Daeth dynes Iechayd a Diogelwch i gwrdd gyda ni hefyd, sef Ann lloyd. Yn gyntaf cerddon ni lawr i'r Ganolfan Hamdden er mwyn gweld llif y traffig yno, yna aethom ar daith nôl ar hyd yr hewl i'r Ysgol Gymraeg a lawr tua Ysgol Plascrug. Sylwon ni fod lot fawr o bobl yn parcio ar y llinellau melyn, bod yna lot o draffic yno, a'i bod hi'n brysur iawn iawn. Byddwn yn cwrdd eto cyn hir. (cofnodion gan Llew)  | 
      |||
  | 
      |||
Rhagfyr 2022 | 
      Cofnodion digwyddiad | 
      ||
Llongyfarchiadau mawr i Bwyllgor y Siarter Iaith ar eu gwaith campus yn ennill achrediad y Cam Aur fel rhan o Siarter Iaith Ceredigion.  | 
      |||
![]()  | 
      |||
 
  | 
      |||
Y PWYLLGORAU PLANT - PWY A BETH YW'R PWYLLGORAU PLANT?
Mae wyth o bwyllgorau i gyd. Penderfynwyd eu creu i glywed mwy o leisiau na llais y Cyngor Ysgol yn unig. Mae'r Pwyllgorau Plant yn cyfarfod i drafod y pethau pwysig sy'n dylanwadu ar fywyd yr ysgol, ac yn rhannu'r wybodaeth hynny gyda'r Cyngor Ysgol. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar bwyllgor sy'n golygu bod llais pawb ar frig yr ysgol yn cael ei glywed.
> Pwyllgor E-ddiogelwch
> Pwyllgor Eco
> Pwyllgor Taclo’r Toiledau
> Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae
> Pwyllgor Llesiant
> Y Siarter Iaith
> Pwyllgor Gwrth fwlio
> Pwyllgor Dyngarol



