Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Y Cyngor Ysgol a Phwyllgorau Plant

Croeso i wybodaeth a digwyddiadau 2021-2022

 

CYNGOR YSGOL : PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?

Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod bob hanner tymor gyda Mr James lle fyddwn yn trafod gwahanol ffyrdd o wella'r ysgol ac yn trefnu gweithgareddau gwahanol hefyd.

 
 
 
Owain
Cynrychiolydd Bl.6
 
Arwen
Cynrychiolydd Bl.6
 
Gruff
Cynrychiolydd Bl.6
 
Manon
Cynrychiolydd Bl.6

 
 
 
 
 
 
Moi
Cynrychiolydd Bl.5
 
Anni
Cynrychiolydd Bl.5
 
Hans
Cynrychiolydd Bl.4
 
Lois
Cynrychiolydd Bl.4
 
 
 
   
     
   
Morgan
Cynrychiolydd Bl.3
  Martha
Cynrychiolydd Bl.3
   
             

 

 

 

21/09/2021

Cofnodion y Cyfarfod Cychwynnol

 

Cafwyd cyfarfod cychwynnol o’r Cyngor Ysgol i drafod pa bwyllgorau plant fydd yr aelodau yn mynychu eu cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn. Penderfynwyd rhannu yr aelodau fel hyn:

 

Arwen

Manon

Gruff

Owain

Ani

Moi

Hans a Lois

Morgan a Martha

Pwyllgor E-ddiogelwch (dan ofal Mr Evans)

Pwyllgor Eco (dan ofal Mrs B Davies)

Pwyllgor Taclo’r Toiledau (dan ofal Mrs James)

Pwyllgor Gorau Chwarae – Cyd Chwarae (dan ofal Mr Jones)

Pwyllgor Llesiant (dan ofal Mr Griffiths)

Y Siarter Iaith (dan ofal Mrs S Davies)

Pwyllgor Gwrth fwlio (dan ofal Miss Ellis)

Pwyllgor Dyngarol (dan ofal Mrs Wigley)

 

Tasg gyntaf y Cyngor Ysgol fydd mynychu’r cyfarfodydd hyn a’u cynorthwyo i fwydo i mewn i’r cynllun ar gyfer y tymor. Byddwn yn cyfarfod fel Cyngor Ysgol ar ddechrau mis Hydref i drafod cynlluniau pob pwyllgor.

 
   

 

 

21/10/2021

Cofnodion y Cyfarfod

 
   

Croesawyd pawb i’r cyfarfod a chytunwyd y dylwn ethol swyddogion ar gyfer y pwyllgor.
Etholwyd y canlynol:
Cadeirydd – Owain L
Is-gadeirydd – Manon P R
Ysgrifennydd – Arwen C
Is-ysgrifennydd – Gruff M

Adroddodd pob aelod o’r Cyngor Ysgol yn ôl ar y pwyllgor plant y maent yn eu cynrychioli.


Llongyfarchwyd y Pwyllgor Gorau Chwarae a’r Siarter Iaith am y digwyddiad diweddar pan redodd pawb yn yr ysgol filltir i godi arian at yr Urdd a’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon. Roedd y prynhawn dydd Gwener yng nghwmni Mistar Urdd yn wych, a llwyddwyd i godi tua £4,500!


Dymunwyd yn dda i’r Pwyllgor Dyngarol a fydd yn trefnu y weithgaredd nesaf sef Diwrnod Pydsi i godi arian at Blant Mewn Angen.


Atgoffwyd pawb o’r angen i gadw llygad mâs am y ddolen ar Teams i ofyn am les plant yn yr ardal leol (i’w cwblhau adref gyda rhieni)


Byddwn cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd.

 

 

 

10/11/2021

Cofnodion y Cyfarfod

 

Croesawyd pawb i’r cyfarfod.

Trafodwyd bod y Pwyllgor Dyngarol wedi gwneud gwaith da yn gwerthu pabis coch yr wythnos hon, ac ar ôl gwerthu mâs ohonyn nhw, wedi gofyn am focs arall a gwerthu y rheiny hefyd! Da iawn nhw!

Mae'r Pwyllgor Dyngarol hefyd yn trefnu i fod yn rhan o weithgaredd Radio Cymru wythnos nesaf a cherdded milltir yr un (neu milltir bob dydd) tuag at Blant Mewn Angen.

Daeth hyn a ni at y Llwybr Lles newydd sydd gennym o gwmpas cae yr ysgol. Dywedodd sawl un yn y Cyngor Ysgol fod angen set o reolau am y llwybr - pryd ni'n cael ei ddefnyddio? Pan yn chwarae ar yr iard bellaf? Amser cinio? A oes hawl rhedeg ayyb. Y Cyngor Ysgol yn dymuno trafod hyn gyda Mr Williams.

Dau aelod o'r Cyngor hefyd yn sylwi ar sbwriel o gwmpas yr ysgol, yn bennaf ar bwys y ffens i Benweddig. Rydym yn mynd i atgoffa'r Pwyllogr Eco i fynd â'r bagiau sbwriel a'r 'litter pickers' i dacluso.

Diolchwyd i'r plant sy'n trefnu'r cerddoriaeth Gymraeg i chwarae dros yr iard amser chwarae - mae pawb yn mwnyhau!

Gofynnwyd os fydd hawl dod â beics i'r ysgol ar ddydd Gwener eto (cyn Covid byddai cyfle i feicio o gwmpas y cae ar bnawn Gwener i bawb) a chytunwyd y bydd hynny'n iawn i wneud eto (pan fydd y tywydd yn gwella yn y gwanwyn)

Cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr.

 
   
   

Y PWYLLGORAU PLANT - PWY A BETH YW'R PWYLLGORAU PLANT?

Mae wyth o bwyllgorau i gyd. Penderfynwyd eu creu i glywed mwy o leisiau na llais y Cyngor Ysgol yn unig. Mae'r Pwyllgorau Plant yn cyfarfod i drafod y pethau pwysig sy'n dylanwadu ar fywyd yr ysgol, ac yn rhannu'r wybodaeth hynny gyda'r Cyngor Ysgol. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar bwyllgor sy'n golygu bod llais pawb ar frig yr ysgol yn cael ei glywed.

 

Cofnodion Pwyllgorau 2021-22 - cliciwch yma i weld y cofnodion ar ffurf pdf