Negeseuon
yr Wythnos

Mae'r Clwb Brecwast ar agor yn ddyddiol o 08:15

Bwydlen ginio

Newyddion

Llythyrau

Calendr

 

-----------------------

Llythyr diweddaraf y Pennaeth 22/Maw

 

Dydd Llun 18/03/24

  • Nyrsys Ysgol yn y Derbyn
  • Sesiwn Aml-Sgiliau i fl.3a4 yn y Brifysgol gyda Ceredigion Actif
  • Noson Rieni 1 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

Dydd Mawrth 19/03/24

  • Noson Rieni 2 - cyfle i drafod cynnydd eich plentyn

 

Dydd Mercher 20/03/24

  • Gwasanaeth ysgol gyfan gyda chriw Agor y Llyfr
  • Blwyddyn 3 yn dringo Pen Dinas
  • Dim ymarfer Ymarfer Cân Actol tan ar ôl y Pasg
  • Does dim Clwb yr Urdd yr hanner tymor hwn

 

Dydd Iau 21/03/24

  • Nofio i fl.5 a 3

 

Dydd Gwener 22/03/24

  • Ymarfer Cerddorfa Ysgol 8:45yb
  • Cau ar gyfer gwyliau'r Pasg (bydd y tymor newydd yn cychwyn i blant ar ddydd Mawrth y 9 fed o Ebrill)

 

LAWRLWYTHIADAU

Croeso i dudalen y Pwyllgorau Plant

PWY A BETH YW'R PWYLLGORAU PLANT?

Mae wyth o bwyllgorau i gyd. Penderfynwyd eu creu i glywed mwy o leisiau na llais y Cyngor Ysgol yn unig. Mae'r Pwyllgorau Plant yn cyfarfod i drafod y pethau pwysig sy'n dylanwadu ar fywyd yr ysgol, ac yn rhannu'r wybodaeth hynny gyda'r Cyngor Ysgol. Mae pob un o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar bwyllgor sy'n golygu bod llais pawb yn cael ei glywed yn ei dro.

Sgroliwch drwy'r dudalen i ddarllen am weithgareddau'r pwyllgorau, neu gliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i Bwyllgor yn syth:

E-ddiogelwch Pwyllgor Eco Taclo'r Toiledau
 
Y Pwyllgor Cadw'n Iach Siarter Iaith Pwyllgor gwrth-fwlio
 
Pwyllgor Dyngarol Gorau chwarae, Cyd chwarae  

 

Pwyllgor e-ddiogelwch yr ysgol

PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?

Rydym yn griw o ddisgyblion sydd â chyfrifoldeb am agweddau e-ddiogelwch yr ysgol. Ein bwriad yw hyrwyddo defnydd diogel o dechnoleg yn yr ysgol yn ogystal ag adref.

Mae technoleg yn chwarae rhan bwysig yn y byd sydd ohoni heddiw. Mae technoleg megis cyfrifiaduron a thabledi, yn ogystal â’r we, wedi newid sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn gweithio gyda’i gilydd. Mae technoleg gyfrifiadurol hefyd wedi newid y ffordd rydym yn dysgu yma yn yr Ysgol Gymraeg.
Er bod nifer o fanteision dros ddefnyddio technoleg gyfrifiadurol, mae sawl anfantais hefyd os ydynt yn cael eu camddefnyddio. Mae'n allweddol felly ein bod fel pwyllgor yn sicrhau bod pawb yn gwybod sut i ddefnyddio'r dechnoleg gyfrifiadurol yn ddiogel.

 

Gwefannau defnyddiol

Dyma restr o wefannau defnyddiol ar gyfer rhieni a phlant sy’n dymuno dysgu mwy am sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar y we.


SchoolBeat - Bwlio Seibr

https://www.schoolbeat.org/cy/rhieni/gwybod-beth-allai-cael-effaith-ar-fy-mhlentyn/bwlio-seiber/

 

SchoolBeat - Ffonau Symudol

https://www.schoolbeat.org/cy/rhieni/gwybod-beth-allai-cael-effaith-ar-fy-mhlentyn/ffonau-symudol/

 

SchoolBeat - Diogelwch ar y we

https://www.schoolbeat.org/cy/rhieni/gwybod-beth-allai-cael-effaith-ar-fy-mhlentyn/diogelwch-ar-y-rhyngrwyd/

 

THINK YOU KNOW – https://www.thinkuknow.co.uk/

 

NSPCC - https://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/keeping-children-safe/share-aware

 

NSPCC - https://net-aware.org.uk/

 

Child.net - http://www.childnet.com/parents-and-carers

 

Dogfennau defnyddiol i rieni a gwarcheidwaid

Cefnogi pobl ifanc ar-lein

1MB

Pwyllo cyn rhannu

7.2MB (24 tudalen)

Siarad yn ofalus ar-lein

1MB

 

 

 

 

Y Pwyllgor Eco

PWY YDYM NI A BETH RYDYM YN EI WNEUD?

Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan blant ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yn y cyfarfodydd. Rydym yn cyfarfod unwaith bob hanner tymor i drafod materion Eco’r ysgol. Ni sy’n gyfrifol am weithgareddau gwyrdd yr ysgol.

 

 

Mae 8 maes yn bwysig i ni:

> Dinasyddiaeth Fyd-eang

> Trafnidiaeth

> Dŵr

> Byw’n Iach

> Sbwriel

> Lleihau gwastraff

> Tir yr Ysgol

> Ynni

 

O fewn y maes Dinasyddiaeth Fyd-eang rydym yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng ein gwlad ni a gwledydd sy’n datblygu, ac rydym yn gweithio’n galed i weithio gyda phrosiectau lleol i helpu mewn unrhyw fodd posib e.e y gwarfagiau a ddanfonwyd i Malawi. Rydyn ni hefyd yn trefnu Diwrnod Rhyngwladol unwaith y flwyddyn fel bod plant yn gallu cymharu Cymru gyda’r gwledydd gwahanol hyn.  Gyda  Thir yr Ysgol, rydym yn sicrhau ein bod yn datblygu meysydd bob blwyddyn. Newidiwyd ardal allanol Blwyddyn 1 a 2 fel eu bod yn gallu gweithio tu allan, ac maent wedi cael castell yn yr ardal hon yn ddiweddar. Rydym yn plannu coed yn flynyddol hefyd. Gyda Sbwriel, mae sgwad sbwriel yn casglu yn wythnosol ac yn cofnodi faint o sbwriel a godwyd ac yn adrodd nôl yng ngwasanaeth fel bod y plant yn sylweddoli bod angen iddynt roi eu sbwriel yn y bin. Yn y maes Dŵr, rydym yn monitro’r defnydd o ddŵr yn yr ysgol ac yn mesur tymheredd y dŵr yn y tapiau. Ar gyfer Lleihau gwastraff rydym yn ailgylchu popeth a fedrwn ac yn monitro faint o wastraff sydd yn y sachau, hefyd rydyn yn cymharu ein gwastraff ni gyda gweddill Ewrop. O safbwynt trafnidiaeth rydym yn monitro sut mae plant yn dod i’r ysgol, ac yn ceisio’u hannog i gerdded neu feicio os oes modd gwneud hynny'n ddiogel. O ran Byw’n Iach, rydym yn monitro bocsys bwyd y plant i weld a ydynt yn iach neu beidio ac rydym yn gwneud tipyn o waith yn y dosbarthiadau i esbonio bwydydd iach a rhai sydd ddim yn iach. Yn y maes Ynni, mae Swyddogion Ynni yn mynd o gwmpas yr ysgol yn gwobrwyo arfer dda o droi goleuadau i ffwrdd pan nad oes neb yn y dosbarth.

 

Rydym fel ysgol yn ymfalchio’n fawr yn y ffaith ein bod wedi ennill Gwobr Platinwm Eco Sgolion Cymru yn 2012.


Pwyllgor Eco 2012 yn derbyn Gwobr Platinwm Eco Sgolion Cymru

 

 

 

Y Pwyllgor Cadw'n Iach

 

"Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn aelod gweithgar o Gynllun Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Mae ysgol iach yn ysgol sy’n mynd ati i hybu a diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned trwy gymryd camau cadarnhaol megis llunio polisïau, gwneud gwaith cynllunio strategol a datblygu staff, mewn perthynas â chwricwlwm, ethos ac amgylchedd ffisegol yr ysgol a’i chysylltiadau â’r gymuned."
 
 
 

Cliciwch ar y ddogfen yma i ddysgu mwy am hylendid

 

 

Mae hylendid yn bwysig iawn i ni yn yr ysgol. Mae gennym nifer o bosteri a chyfarwyddiadau ar gyfer atgoffa plant o bwysigrwydd golchi dwylo

Rydym hefyd yn atgoffa'r plant o bwysigrwydd yfed digonedd o ddŵr. Mae'r Her Pi-pi yn rhoi gwybodaeth am ba liw y dylai iwrin fod. Mae'n gyfle i'r plant gymharu lliw eu iwrin gyda'r poster a'u dysgu yn eu tro am bwysigrwydd hydradu.